Skip to main content

Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol

Rydym yn ymgynghori ar bob prosiect Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol cymwys yng Nghymru. Proses o nodi effeithiau amgylcheddol (cadarnhaol a negyddol) datblygiadau arfaethedig cyn rhoi caniatâd cynllunio yw Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.

 

Efallai mai’r awdurdodau cynllunio lleol neu’r Arolygiaeth Gynllunio fydd yn ymdrin ag Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol, yn dibynnu ar y math o ddatblygiad a’r cais dan sylw.

Mae pobl yn gofyn am gyngor gennym ar y canlynol:

  • sgrinio a yw’r prosiect yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd hanesyddol ac a oes angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol
  • ‘cwmpas’ yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol mewn perthynas â’r amgylchedd hanesyddol.

Wrth ymateb i Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, rydym yn pwyso a mesur effaith y prosiect ar yr asedau hanesyddol canlynol:

  • henebion cofrestredig a’u lleoliadau
  • adeiladau rhestredig a’u lleoliadau  (wrth ymateb i’r Arolygiaeth Gynllunio)
  • parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig a’u lleoliadau
  • tirweddau hanesyddol cofrestredig
  • drylliadau gwarchodedig
  • Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Rydym yn gwneud asesiadau ar sail polisi a chanllawiau defnydd tir Llywodraeth Cymru yn: