Skip to main content

Henebion Cofrestredig

Lleoliad asedau hanesyddol

Yn y canllaw hwn

1. Beth yw lleoliad?

Mae’r gair lleoliad yn ymwneud â’r tir o gwmpas eich heneb gofrestredig lle mae’n cael ei deall, ei phrofi a’i gwerthfawrogi, gan gynnwys ei pherthynas â’r dirwedd o’i chwmpas yn awr ac yn y gorffennol. Pwysigrwydd lleoliad yw ei gyfraniad at arwyddocâd eich heneb gofrestredig.

Rhywbeth gweledol yw lleoliad gan fwyaf, ond gall gynnwys nodweddion eraill fel llonyddwch neu natur ddiarffordd. Nid yw’n rhywbeth sefydlog a gall newid wrth i’r heneb a’r tir o’i chwmpas esblygu. Gall lleoliad heneb gofrestredig gynnwys elfennau ffisegol y tir o’i chwmpas, ei pherthynas â nodweddion hanesyddol, naturiol a thopograffig eraill a’i pherthynas ehangach â’r dirwedd a’i hamlygrwydd yn y dirwedd honno.

Dyma enghreifftiau o leoliad:

  • Mae tomenni claddu’r Oes Efydd i’w gweld yn aml mewn clystyrau gwasgarog, y gellir eu gweld o domenni neu glystyrau eraill. Maen nhw’n gysylltiedig hefyd â meini hirion a henebion defodol eraill.
  • Yn niwedd yr Oes Haearn cyn-hanesyddol, câi bryngaerau mawr o wrthgloddiau eu codi ar fannau amlwg ar gopaon bryniau. Hyd yn oed heddiw, filoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach, maen nhw’n gallu dominyddu’r dirwedd ac yn amlwg o filltiroedd.
  • Mae safleoedd milwrol, fel cestyll, ceyrydd Rhufeinig neu gaerau tanddaearol mwy diweddar o’r Ail Ryfel Byd, yn datgelu safleoedd tactegol clir yn y dirwedd gan roi golygon sy’n hanfodol i ddeall eu pwrpas.

Gall perthynas swyddogaethol henebion cofrestredig â’i gilydd gynnwys cysylltiadau rhwng elfennau gwahanol safleoedd diwydiannol sy’n dangos y prosesau a ddefnyddir i ganfod, prosesu a chludo deunydd crai a chynnyrch gorffenedig.

Mae’n bwysig cofio nad i henebion cofrestredig sydd â rhannau yn y golwg yn unig y mae lleoliad yn berthnasol; mae gan safleoedd dan ddaear eu lleoliad hefyd. Nid yw fila Rufeinig, â’i holion wedi’u claddu dan gae, wedi’i lleoli ar hap. Byddai hi wedi bod yn ganolbwynt fferm Rufeinig. I ddeall sut y byddai wedi gweithio, rhaid deall y dirwedd roedd yn gweithio ynddi a byddai’i thopograffi wedi bod fel ag y mae heddiw. Byddai’r cysylltiadau â’r cyflenwadau dŵr lleol, yn enwedig y rheini a fyddai wedi bwydo baddondy cynnes y fila a’i system wresogi danlawr, wedi bod yn neilltuol o berthnasol.

Mae llyfryn Cadw, Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru yn esbonio mwy am leoliad a’i gyfraniad at arwyddocâd eich heneb gofrestredig.

2. Pryd y Dylid Asesu Lleoliad

Mae’n arfer rheoli da i sicrhau eich bod yn deall lleoliad asedau hanesyddol rydych yn berchen arnynt neu’n eu rheoli. Dylai diffinio a dadansoddi lleoliad ased hanesyddol fod yn rhan o unrhyw ddatganiad o arwyddocâd neu gynllun rheoli cadwraeth. Mae’n rhan o’r dystiolaeth sylfaenol sy’n ein galluogi i ddeall ased hanesyddol a’i arwyddocâd yn llawn. Mae asesiad o leoliad yn ddefnyddiol pa un a oes angen cael caniatâd cynllunio neu gydsyniadau eraill ar gyfer newid arfaethedig ai peidio. Gall newid gynnwys gwaith atgyweirio, gwaith adnewyddu, gwaith adfer a gwaith ailadeiladu, gwaith newydd neu waith addasu, a gwaith dymchwel.

Wrth wneud ceisiadau am ganiatâd cynllunio, dylai ymgeiswyr roi gwybodaeth ddigonol, ond cymesur, i’r awdurdod cynllunio lleol er mwyn iddo fedru asesu effaith debygol cynigion datblygu ar ased hanesyddol a’i leoliad mewn heneb neu olion archaeolegol (cofrestredig neu anghofrestredig) o bwys cenedlaethol.

Gall deall lleoliad ased hanesyddol eich helpu i lunio cynigion datblygu priodol. Gellir defnyddio’r broses hon i nodi dulliau gweithredu amgen a gall eich helpu i gynllunio a dylunio eich cynigion yn well fel eu bod yn lleihau niwed ac yn sicrhau’r manteision mwyaf posibl i arwyddocâd ased hanesyddol a’i leoliad. Bydd yr wybodaeth hon yn helpu’r awdurdod cynllunio lleol i ddeall y rhesymau dros eich cynigion pan fydd yn penderfynu ar eich cais cynllunio.

Mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ymgynghori â Cadw ar gynigion datblygu sydd, yn eu barn hwy, o fewn lleoliad heneb gofrestredig.  Cyn i chi gyflwyno cais cynllunio, mae’n arfer da trafod eich cynnig gyda’r awdurdod cynllunio lleol a, lle y bo’n briodol, â Cadw. Mewn trafodaeth cyn ymgeisio, gallwch gadarnhau a yw datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith ar arwyddocâd ased hanesyddol a’i leoliad a pha asesiad y gallai fod angen i chi ei gynnal.

Mae lleoliad yn ystyriaeth mewn ceisiadau am chydsyniad heneb gofrestredig. Gall eich asesiad o leoliad fod yn rhan o ddatganiad o’r effaith ar dreftadaeth.