Skip to main content

Deall nodweddion hanesyddol

Mae nodweddion hanesyddol wrth galon elfennau unigryw lleol a naws am le.

Maent yn cael eu llunio gan weithgareddau pobl dros ddegau, cannoedd, neu hyd yn oed miloedd o flynyddoedd. Mae llawer o nodweddion unigryw lle yn deillio o’i hanes yn yr un modd ag y mae cymeriad person yn cael ei ffurfio dros amser. Gall y rhain gynnwys ei darddiad a chyfnodau arwyddocaol yn ei hanes — sut a pham roedd wedi datblygu a newid. Hefyd, gallant gynnwys gweithgareddau a thraddodiadau penodol, cymunedau a phobl, neu ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â lle. Mae’r elfennau hyn i gyd yn cyfrannu at nodweddion hanesyddol: gallwn eu gweld yn ffurf ac adeiledd lle, yn ogystal ag yn yr enwau, storïau, celf a diwylliant sy’n gysylltiedig ag ef.

Nodwyd bod rhai elfennau o’r amgylchedd hanesyddol o ddiddordeb neu bwys cenedlaethol arbennig — henebion cofrestredig, adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth, a pharciau, gerddi a thirweddau hanesyddol cofrestredig. Fodd bynnag, mae nodweddion hanesyddol yn fwy na’r cyfan o’r asedau hyn a gydnabyddir yn genedlaethol. Gall pethau cyffredin a phethau pob dydd gyfrannu gymaint at nodweddion hanesyddol â hen adeilad mawreddog. Mae hyn yn golygu y gall fod nodweddion hanesyddol cyfoethog yn rhywle sydd ag ychydig o asedau hanesyddol dynodedig.

Gallwn gofnodi elfennau unigryw lleol drwy nodweddu — nodi sut y mae lleoedd wedi’u ffurfio dros amser a beth sy’n eu gwneud yn arbennig. Gallwn weld nodweddion hanesyddol ym mhatrymau gofod a chysylltiadau, yn ogystal ag yn y traddodiadau adeiladu. Dyma gynhwysion hunaniaeth unigryw lle. Os ydym yn deall yr hunaniaeth unigryw hon, gallwn sicrhau ein bod yn dal gafael ar yr hyn sy’n gwneud lleoedd yn arbennig wrth iddynt newid.

Mae Cadw wedi bod yn edrych ar gyfres o drefi ledled Cymru, ac mae gan bob un ohonynt ei nodweddion arbennig ei hun.  Mae’r astudiaethau yn rhoi diffiniad o nodweddion lleol sy’n gallu cyfrannu at y gwaith o reoli newid.

Mae’r ddogfen Rheoli Nodweddion Hanesyddol yng Nghymru yn esbonio sut y gall awdurdodau cynllunio lleol ddefnyddio nodweddion hanesyddol i helpu i greu a chynnal lleoedd unigryw ar gyfer y dyfodol.