Skip to main content

Ceisiadau am Drwydded Amgylcheddol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghori â ni ynglŷn â cheisiadau am drwyddedau i gyflawni gweithgareddau penodol o fewn yr amgylchedd morol ac i gwympo coed.

Ceisiadau am Drwydded Forol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghori â ni ynglŷn â cheisiadau am drwyddedau i gyflawni gweithgareddau penodol o fewn yr ardal forol lle mae angen trwydded - gan gynnwys carthu, dyddodi neu dynnu deunydd neu sylwedd gan ddefnyddio cerbyd neu long, a gwaith adeiladu, addasu neu wella.

I gael rhagor o wybodaeth am y drefn o wneud cais am drwydded forol, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Rydym yn rhoi cyngor ar effaith cynigion ar yr asedau hanesyddol canlynol:

  • henebion cofrestredig a’u lleoliadau
  • parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig
  • adeiladau rhestredig a’u lleoliadau
  • tirweddau hanesyddol cofrestredig
  • drylliadau cofrestredig
  • Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Ceisiadau am Drwydded i Gwympo Coed

Mae eraill yn ymgynghori â ni ar geisiadau i gwympo coed o fewn ffiniau henebion cofrestredig a pharciau a gerddi hanesyddol cofrestredig.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.