Skip to main content

Ceisiadau cynllunio

Rydym yn darparu asesiad i awdurdodau cynllunio lleol o effaith debygol cynigion cynllunio ar:

  • henebion cofrestredig a’u lleoliadau
  • parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig a’u lleoliadau
  • tirweddau hanesyddol cofrestredig
  • Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Nid ydym yn darparu asesiadau o effaith debygol cynigion cynllunio ar adeiladau rhestredig neu ardaloedd cadwraeth gan mai’r awdurdodau cynllunio lleol sy’n ystyried y rhain.

Rydym yn asesu ar sail polisi a chanllawiau defnydd tir Llywodraeth Cymru yn:

Nid ydym bob amser yn gwrthwynebu ceisiadau yr ydym yn ystyried fel rhai sy’n debygol o gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd hanesyddol. Er enghraifft, efallai y bydd ein hatebion ymgynghori yn esbonio sut y gellir mynd i’r afael â’n pryderon am effaith y cais.

Pryd mae eraill yn ymgynghori â Cadw?

Does dim angen ymgynghori â ni ar bob cais cynllunio yng Nghymru, ond mae’n rhaid gwneud hynny yn yr achosion canlynol:

  • datblygiad sy’n cael effaith ffisegol uniongyrchol ar heneb gofrestredig
  • datblygiad sy’n debygol o fod yn weladwy o heneb gofrestredig ac sy’n bodloni un o’r meini prawf a ganlyn

a) ei fod o fewn pellter o 0.5 cilomedr o unrhyw bwynt ar berimedr heneb gofrestredig

(b) ei fod o fewn pellter o 1 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 15 o fetrau neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 0.2 hectar neu ragor

(c) ei fod o fewn pellter o 2 gilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 50 metr neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 0.5 hectar neu ragor

(d) ei fod o fewn pellter o 3 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 75 o fetrau neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 1 hectar neu ragor; neu

(e) ei fod o fewn pellter o 5 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 100 metr neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 1 hectar neu ragor; neu

  • datblygiad sy’n debygol o effeithio ar safle parc hanesyddol cofrestredig neu ei leoliad
  • datblygiad o fewn tirwedd hanesyddol gofrestredig y mae angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar ei gyfer; neu
  • datblygiad sy’n debygol o gael effaith ar werth byd-eang eithriadol Safle Treftadaeth y Byd.

Mae’r holl fanylion am pryd ddylai awdurdod cynllunio lleol ymgynghori â ni i’w gweld yn Atodlen 4 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016