Skip to main content

Cyflwyniad

Gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru ydym ni. Rydym yn darparu cyngor ar ran Gweinidogion Cymru i awdurdodau cynllunio lleol ac eraill o fewn y system gynllunio am effaith bosib datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd hanesyddol.

Mae’r amgylchedd hanesyddol yn adnodd sydd angen ei drysori a’i warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Does dim angen i warchodaeth atal newid, fodd bynnag. Gall newid roi hwb i gynaliadwyedd hirdymor a hyfywedd economaidd asedau hanesyddol. Gall hefyd wella ein dealltwriaeth a’n gwerthfawrogiad o’r amgylchedd hanesyddol a sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd drwy hybu adfywio a thwristiaeth.

Un o’r dulliau o reoli’r newid i’r amgylchedd hanesyddol yw trwy’r system gynllunio. Wrth ystyried datblygiadau posib, rhaid i bawb sy’n ymwneud â’r broses gynllunio gofio am amcanion Llywodraeth Cymru i amddiffyn, gwarchod, hyrwyddo a gwella’r amgylchedd hanesyddol fel adnodd er llesiant cenedlaethau heddiw ac yfory.