Datblygiadau cenedlaethol
Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol
Cais cynllunio am brosiect seilwaith mawr o bwys cenedlaethol yw datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol (DAC); er enghraifft, fferm wynt, pwerdy neu gronfa ddŵr. Bydd arolygwr cynllunio yn ystyried ceisiadau DAC, cyn gwneud argymhellion i’r Gweinidog. Yna, mae’r Gweinidog yn penderfynu a yw am roi caniatâd neu beidio.
Rydym yn darparu cyngor i’r Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn ag effaith bosib Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol arfaethedig ar y canlynol:
- henebion cofrestredig a’u lleoliadau
- adeiladau cofrestredig a’u lleoliadau
- parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig a’u lleoliadau
- tirweddau hanesyddol cofrestredig
- drylliadau gwarchodedig
- Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol
Mae llywodraeth y DU yn ymgynghori â ni ar brosiectau datblygu ynni a harbwr o bwys cenedlaethol yma yng Nghymru – prosiectau sydd angen math arbennig o gydsyniad o’r enw ‘cydsyniad datblygu’; sy’n cael eu pennu gan lywodraeth y DU yn dilyn archwiliad cyhoeddus gan yr Arolygiaeth Gynllunio.
Rydym yn cynghori’r Arolygiaeth Gynllunio ar effaith bosib prosiectau seilwaith cenedlaethol arfaethedig ar:
- henebion cofrestredig a’u lleoliadau
- adeiladau rhestredig a’u lleoliadau
- parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig a’u lleoliadau
- tirweddau hanesyddol cofrestredig
- drylliadau gwarchodedig
- Safleoedd Treftadaeth y Byd.