Skip to main content

Ymgysylltu cyn gwneud cais

Rydym yn annog datblygwyr i siarad â ni cyn cyflwyno cynigion i’r awdurdod cynllunio lleol. Mae trafodaeth gynnar yn golygu y gallwn gynghori ar y wybodaeth sydd angen ei darparu am yr amgylchedd hanesyddol fel rhan o’r cais cynllunio.

Fe’ch anogir i gysylltu â’n tîm Cynllunio a Pholisi i drafod datblygiad arfaethedig cyn cyflwyno cais. Byddwn yn ymateb i ymgynghoriadau o’r fath o fewn 21 diwrnod.

Gallwch gysylltu â’n tîm Cynllunio a Pholisi trwy e-bostio  CynllunioCadw@llyw.cymru

Ymgynghoriad cyn gwneud cais statudol ar gyfer datblygiadau mawr

Rhaid i ddatblygwyr sy’n cynnig datblygiadau mawr yng Nghymru gynnal ymgynghoriad cyn gwneud cais statudol. Rydym yn rhoi cyngor cyn ymgeisio i ddatblygwyr am effaith bosib eu cynigion ar yr asedau hanesyddol canlynol:

  • henebion cofrestredig a’u lleoliadau
  • parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig a’u lleoliadau
  • tirweddau hanesyddol cofrestredig
  • Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Nid ydym yn darparu asesiadau cyn ymgeisio am effaith debygol y datblygiad ar adeiladau rhestredig neu ardaloedd cadwraeth gan mai’r awdurdodau cynllunio lleol sy’n ystyried y rhain.

Hefyd, rydym yn cynghori datblygwyr am y wybodaeth sydd angen ei chynnwys gyda’u ceisiadau cynllunio er mwyn sicrhau bod pawb yn ystyried yr amgylchedd hanesyddol yn llawn.