Ydych chi’n ymwneud â gwaith cysylltiedig â’r Amgylchedd Hanesyddol a Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru?
Cymerwch ran yn ein Harolwg Gweithgarwch o’r Amgylchedd Hanesyddol ac Addasu i Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer 2022.
Fis Chwefror 2020 cyhoeddodd Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol (HEG) Gynllun Addasu’r Sector y sector Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau a’r cyfleoedd y mae newid yn yr hinsawdd yn eu creu i’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, a’r angen i addasu. Yn Adran 6 y Cynllun mae cyfres o brif gamau gweithredu gydag allbynnau a chanlyniadau a fwriedir ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol.
Rydym bellach yng ngham ‘adroddiad interim ar weithgarwch’ Blwyddyn 3 cylch Fframwaith Monitro a Gwerthuso 5 mlynedd Cynllun Addasu’r Sector. Felly mae Is-grŵp Newid yn yr Hinsawdd HEG wedi lansio eu hymgynghoriad i gasglu tystiolaeth o weithgarwch addasu sy’n berthnasol i’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, a gynhaliwyd yn ystod 2022.
Bydd hyn yn ein helpu i werthuso cynnydd yn erbyn y camau gweithredu sydd wedi’u cyhoeddi ac i nodi bylchau a meysydd blaenoriaeth sydd angen sylw pellach.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau am 14:00 ar 10 Chwefror 2023.
Diolch i chi ar ran Is-grŵp Newid yn yr Hinsawdd HEG.