Skip to main content

Drwy gydol Haf 2023, bydd cerfluniau ffotograffig sfferig yn cael eu gosod mewn lleoliadau Cadw ar draws y wlad gan gynnwys Abaty Tyndyrn, Castell Caernarfon a Harbwr Porthgain fel rhan o fenter ‘Blwyddyn Llwybrau’ Croeso Cymru.

Mae ffotograffiaeth clirlun 360-gradd wedi'i ddefnyddio i greu naw cerflun ffotograffig sfferig penodol i leoliad er mwyn ffurfio llwybr y gosodiad celf. Bydd y cerfluniau’n cael eu hailosod ym mhob safle lle tynnwyd y ffotograffau, gan roi cyfle i ymwelwyr weld tirnodau treftadaeth mwyaf trawiadol Cymru o safbwynt unigryw, sfferig.

I ddathlu, rydym am i chi rannu llun o’r creiriau mewn un o’r naw lleoliad ar draws y wlad gyda’r hashnod #CrairLunCadw am gyfle i ennill aelodaeth Cadw am flwyddyn. P'un a ydych chi'n dewis tynnu hunlun, saethiad o’r olygfa neu rywbeth mwy creadigol, byddem wrth ein bodd yn gweld eich lluniau.

Mae'r broses yn syml:

  • uwchlwythwch ddelwedd o un o'r naw crair a fydd yn mynd ar daith o amgylch safleoedd Cadw'r haf hwn
  • tagiwch @cadwcymruwales ar Instagram, @CadwWales ar Facebook, neu @cadwcymru / @cadwwales ar Twitter
  • dilynwch ein tudalen Instagram, Facebook neu Twitter
  • defnyddiwch yr hashnod #CrairLunCadw
  • bydd y post sy'n derbyn yr ymateb gorau gan weddill y cyhoedd yn ennill. Bydd yr enillydd yn cael sylw ar gyfryngau cymdeithasol Cadw a byddant yn derbyn aelodaeth Cadw am flwyddyn* — gan ganiatáu i chi archwilio hyd yn oed mwy o’n safleoedd mawreddog AM DDIM!

*Ydych chi’n aelod yn barod? Mi fyddwch yn gallu adnewyddu eich aelodaeth Cadw bresennol os ydych chi’n llwyddiannus.

photosphere at Blaenafon ironworks

Lleoliadau a Dyddiadau 2023:

Am restr llawn o leoliadau a dyddiadau ar gyfer taith y gosodiad celf hwn, cliciwch yma

Telerau ac Amodau

  • Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 11.59yh ddydd Sul 27 Awst 2023.
  • Rhaid i'ch llun gael ei rhannu o fewn adran sylwadau post Cadw neu ei phostio'n organig ar Facebook, Instagram neu Twitter.
  • Rhaid i bawb sy’n cystadlu yn y gystadleuaeth dagio @cadwcymruwales, dilyn @cadwcymruwales a defnyddio’r hashnod #CrairLunCadw.
  • Bydd llun yn cael ei ddewis ar hap.
  • Gellir cyhoeddi enw’r enillydd ar gyfryngau cymdeithasol Cadw ynghyd â’u cais buddugol.
  • Cystadleuaeth agored i aelodau Cadw a rhai nad ydynt yn aelodau Cadw. Wrth hawlio eich gwobr o aelodaeth dewiswch rhwng aelodaeth newydd neu adnewyddu.
  • Byddwn yn cysylltu â’r enillydd trwy neges uniongyrchol o fewn 10 diwrnod i’r dyddiad gorffen i gadarnhau mai nhw yw’r enillydd, gyda chyfarwyddiadau ar sut i hawlio eu gwobr. Gwneir ymdrechion rhesymol i gysylltu â'r enillydd. Os na fydd yr enillydd yn ymateb o fewn 7 diwrnod, mae Cadw yn cadw'r hawl i gynnig y wobr i ymgeisydd arall.
  • Ni fydd y cynigion hynny nad ydynt yn enillwyr yn derbyn gohebiaeth bellach gan Cadw am eu cais.
  • Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rydych chi'n derbyn telerau ac amodau'r gystadleuaeth arolwg cyffredinol hon.