Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae Cadw wedi rhyddhau ei amserlen digwyddiadau gwyliau haf arbennig, gan gynnig amrywiaeth enfawr o weithgareddau i deuluoedd fwynhau a phrofi diwylliant a hanes Cymru.

Hysbysiad Ymwelwyr
Oherwydd tywydd garw, mae gosodiad Creiriau yn Mhentre Ifan wedi ei ohirio. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.

Drwy gydol gwyliau’r haf, bydd safleoedd Cadw yn gartref i amrywiaeth anhygoel o ddigwyddiadau hanesyddol a diwylliannol cyffrous i’r teulu cyfan. Gyda dros 130 o lefydd hanesyddol, mae mil o resymau i bawb ymweld yr haf hwn.

Gall teuluoedd roi cynnig ar saethyddiaeth, archaeoleg a hyd yn oed gofrestru yn Ysgol y Marchogion. Dyma rai o’r dewisiadau gorau ledled y wlad dros fisoedd yr haf:

Sfferau lluniau o greiriau (safleoedd amrywiol)

Yr haf hwn, bydd Cadw yn ail-lansio profiad cyffrous i ymwelwyr gyda llwybr o sfferau â lluniau o greiriau, gan roi persbectif unigryw o’r abatai, y cestyll a’r safleoedd neolithig lle maent yn sefyll.

Bydd y gosodiadau’n annog ymwelwyr i herio’r hyn maen nhw’n ei wybod am ffotograffiaeth nodweddiadol, yn ogystal â thynnu sylw at gadwraeth yr henebion dros 10 mlynedd. Bydd y creiriau’n rhan o Flwyddyn y Llwybrau Croeso Cymru – gyda mapiau straeon Llwybrau ar gael i’w gweld ar wefan Cadw.

Dyddiadau â lleoliadau'r creiriau:

Castell Rhaglan (27-28 Gorffennaf); Abaty Tyndyrn (29-30 Gorffennaf); Gwaith Haearn Blaenafon (31 Gorffennaf-1 Awst); Chwarel a Harbwr Porthgain (7 Awst); Siambr Gladdu Pentre Ifan (8 Awst); Castell y Bere (10-11 Awst); Abaty Glyn y Groes (19-20 Awst); Castell Caernarfon (21-22 Awst); Din Lligwy (23-24 Awst).

photosphere at Valle crucis abbey

Diwrnod Blasu Archaeoleg Plant (Castell Rhuddlan)

Pa ffordd well o ddechrau’r gwyliau na diwrnod blas ar archaeoleg. Mae’n wych i ddarpar archaeolegwyr neu’r rheini sydd â meddwl chwilfrydig, a gall ymwelwyr gael cyfle i gloddio ym mhwll tywod Castell Rhuddlan i weld pa ryfeddodau sydd i’w canfod.

Bydd gweithdai canoloesol hefyd, a bydd y storïwr, Mair, yn rhannu chwedlau lleol ac yn chwarae ei thelyn drwy gydol y dydd.

Gwybodaeth am y Digwyddiad:

Dydd Gwener 28 Gorffennaf, 11:00-15:00

Helfa Sborion y Castell (Castell Coch)

Dros benwythnos gŵyl y banc mis Awst, gall teuluoedd archwilio’r castell hudolus ar gyrion Caerdydd, gyda helfa yng Nghastell Coch a’r cyffiniau.

Bydd yr helfa’n mynd ag ymwelwyr ar daith y tu mewn a’r tu allan i’r castell, gan wneud darganfyddiadau cyffrous ar hyd y llwybr – ffordd wych o fynd allan i fyd natur. Rhaid archebu tocynnau cyn y digwyddiad yma.

Gwybodaeth am y Digwyddiad:

Dydd Sadwrn 26 – dydd Llun 28 Awst, 11:00–15:00

Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.

Castell Coch - family group at entrance

Adar ysglyfaethus (Castell Talacharn)

Dyma gyfle i fynd yn agos at adar ysglyfaethus ysblennydd yn nigwyddiad hebogyddiaeth Castell Talacharn.

Gydag amrywiaeth o rywogaethau’n cael eu harddangos, cewch gyfle i ddysgu am y creaduriaid rhyfeddol hyn gan yr arbenigwyr eu hunain. Bydd yr arddangosfeydd yn cael eu cynnal ddwywaith y dydd am 12pm a 3pm.

Gwybodaeth am y Digwyddiad:

Dydd Sul 27 – dydd Llun 28 Awst, 11:00–16:00

Digwyddiadau/Events

Gŵyl Ganoloesol (Castell Biwmares)

Dyma ddigwyddiad arall sy’n cael ei gynnal dros ŵyl y banc. Bydd yr ŵyl ganoloesol hon yng Nghastell Biwmares ar Ynys Môn yn dangos sut beth oedd bywyd yn yr Oesoedd Canol. Bydd marchogion, arglwyddi ac arglwyddesau, cerddorion a digrifwyr y Castell yn cludo ymwelwyr yn ôl i’r cyfnod.

Ewch i’r gwersyll canoloesol i weld arddangosiadau ar wneud saethau, sut i wisgo arfogaeth, yn ogystal â gwrando ar straeon erchyll am artaith gan ddienyddiwr y castell. Penllanw’r diwrnod fydd brwydr rhwng yr Arglwydd Gerard de Rhodes a’r Capten Nicholas Horton, i weld pwy all goncro’r castell.  

Gwybodaeth am y Digwyddiad:

Dydd Sadwrn 26 – dydd Llun 28 Awst, 10:00–17:00

marchogion Ardudwy yn ymladd / Ardudwy knights fighting

Jim y Jyglwr (Castell Cydweli)

Fis Awst yma, ewch i Gastell Cydweli i weld Jim y Jyglwr am hwyl i’r teulu cyfan. Gyda chymysgedd o weithdai syrcas ac ysgol farchogion gwirion i blant, mae cyfle i bawb gymryd rhan. Gall ymwelwyr hefyd roi cynnig ar fod yn ddigrifwyr, dysgu sgiliau fel jyglo, diabolo, troelli platiau a mwy.

Gwybodaeth am y Digwyddiad:

Dydd Mawrth 1 – Dydd Mercher 2 Awst, 11:00–16:00

Digwyddiadau/Events

Cwest Haf Tretŵr (Llys a Chastell Tretŵr)

Dros wyliau’r haf, beth am gymryd rhan yn Cwest Haf Tretŵr i ddod o hyd i’r trysor cudd cyn i ‘Walter the Wrecker’ o Gastell Dwn-rhefn gyrraedd ac achosi gormod o helynt.

Bydd y llwybr yn mynd â chi o amgylch y castell a’i dir, gan chwilio am drysor Walter mewn ras yn erbyn amser...

Gwybodaeth am y Digwyddiad:

Dydd Sadwrn 22 Gorffennaf – dydd Sul 3 Medi, 10:00–17:00

girl looking through magnifying glass

Ysgol y Marchogion (Castell Harlech)

Yn eisiau: unigolion i hyfforddi fel marchogion ffyddlon Castell Harlech.

Bob dydd Mawrth yn ystod gwyliau’r haf, gall plant ddysgu i fod yn farchog ffyddlon a gwarchod un o hoff gestyll Edward I.

Gwybodaeth am y Digwyddiad:

25 Gorffennaf, 1, 8, 15, 22 Awst, 11:00–16:00

Ysgol i Gellweirwyr  (Castell Cas-gwent)

Mae’r Ysgol i Gellweirwyr yng Nghastell Cas-gwent yn ffordd berffaith i blant ddarganfod a fydden nhw’n llwyddo i ddifyrru arglwyddi, arglwyddesau a’u gwesteion canoloesol. Bydd digrifwr preswyl y castell, Jim y Jyglwr, wrth law i ddysgu triciau fel troelli platiau, jyglo a cherdded ar raff.

Gallwch hefyd ddysgu am 900 mlynedd o hanes y gaer ar ben y clogwyn.

Gwybodaeth am y Digwyddiad:

Dydd Sadwrn 22 – dydd Sul 23 Gorffennaf, 10:00–16:00

Ymweliadau Rhithiol (safleoedd amrywiol)

I’r rheini na all deithio i safleoedd sy’n bell ohonynt, bydd nifer o lefydd hanesyddol newydd Cadw yn cael eu hychwanegu at lyfrgell yr Ymweliadau Rhithwir yr haf hwn.

Drwy dechnoleg sganio 3D, bydd yr ymweliadau hyn yn caniatáu i bobl ymgolli yng nghreiriau crefyddol, cartrefi hanesyddol, olion Rhufeinig a mwy, gan archwilio safleoedd Cymru mewn ffordd newydd ac arloesol.

Mae ymweliadau newydd yn cynnwys: Siambr Gladdu Llech y filiast, Abaty Ystrad Fflur, Castell Cas-gwent, Llys a Chastell Tretŵr a Chastell Cydweli.

Gwybodaeth am y Digwyddiad:

Mae’r digwyddiadau a drefnwyd gan Cadw ar gyfer gwyliau’r haf eleni wedi’u cynllunio ar gyfer amrywiaeth eang o ddiddordebau ac oedrannau, gan gynnig ymdeimlad o antur ar gyfer diwrnod allan gwych a chreu atgofion gydol oes. Mae rhestr lawn o’r digwyddiadau ar gael ar wefan Cadw: https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw

I’r rheini sy’n awyddus i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael yn ystod gwyliau’r haf, mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad am ddim i ddigwyddiadau a mynediad diderfyn i dros 130 o safleoedd hanesyddol ledled Cymru, gan gynnig ffordd unigryw o archwilio treftadaeth gyfoethog Cymru.

Mae dros 130 o safleoedd hanesyddol i ymweld â nhw a 1,000 o resymau i bawb ddod yn aelod o Cadw. Rhagor o wybodaeth yn Aelodaeth Cadw