Skip to main content

Y Nadolig hwn, rydyn ni’n cynnal cystadleuaeth Instagram i ddod o hyd i gynnwys gaeafol a Nadoligaidd ar safleoedd Cadw — boed yn ddelwedd drawiadol o abaty yn yr oerfel neu fideo o’ch teulu yn archwilio castell canoloesol yn eu hetiau pelen.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ymweld â safle Cadw a phostio llun/fideo/rîl ar Instagram gyda’r hashnod #NadoligEfoCadw — a bydd yr enillydd yn ennill aelodaeth Cadw (am un flwyddyn) o’ch dewis AM DDIM*.

Gweler y Telerau ac Amodau isod….

  1. Bydd y gystadleuaeth #NadoligEfoCadw yn cael ei chynnal rhwng 9am ar 1.12.21 a 5pm ar 22.12.21. Ni fydd unrhyw gofnodion sy’n cael eu postio ar ôl yr amser hwn yn cael eu derbyn.
  2. Bydd cynrychiolydd o Cadw yn beirniadu’r gystadleuaeth, gan ddewis ei hoff ymgais fel yr enillydd.
  3. Bydd yr enillydd yn cael eu cyhoeddi ar draws holl blatfformau cyfryngau cymdeithasol Cadw, gan gynnwys Facebook, Twitter, ac Instagram ar 23.12.21. 
  4. Bydd Cadw yn rhoi gwybod i’r enillydd am ei lwyddiant cyn trefnu cyflwyno’r wobr. Mae Cadw yn cadw’r hawl i ddewis enillydd newydd os nad yw’r ymgeisydd llwyddiannus yn ymateb o fewn 24 awr.
  5. Mae’r enillydd a’r cystadleuwyr yn cytuno i ddefnyddio ei enw/henw a’i ddelwedd/delwedd mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd. Bydd unrhyw ddata personol sy'n ymwneud â'r enillydd, neu unrhyw un arall, yn cael ei ddefnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol y DU yn unig ac ni chaiff ei ddatgelu i drydydd parti heb ganiatâd ymlaen llaw y darparydd.
  6. Dim ond un ymgais a gaiff ei derbyn fesul person. Ni fydd mwy nag un ymgais gan yr un person yn cael eu derbyn ar gyfer y wobr. 
  7. *Mae Aelodaeth Oes Cadw wedi’i heithrio o’r wobr.