Drysau Agored - Abaty Hendy-gwyn ar Daf
Sefydlwyd Abaty Sistersaidd pwysig Hendy-gwyn ar Daf yn 1151.
Dymchwelwyd yr adeilad pan ddiddymwyd y mynachlogydd a’r unig beth sydd i’w weld bellach yw bonion y waliau cerrig canoloesol yn y glaswellt. Mae amlinell yr adeilad yn amlwg, ac mae rhai o’r waliau canoloesol gwreiddiol yn dal i sefyll ymhlith ychwanegiadau diweddarach o Oes Fictoria.
Fel rhan o Ddrysau Agored, bydd sgyrsiau ac arddangosfa am hanes pwysig yr Abaty yn ogystal â theithiau tywys anffurfiol, sesiynau cwis, gweithgareddau i blant, ail-greadau ac arddangosiadau o fywyd a chrefftau’r Oesoedd Canol.
Nid oes angen archebu lle.
Lleoliad - Adfeilion Abaty Hendy-gwyn, Hendy-gwyn ar Daf SA34 0LG.
X=220844 Y=218243
Cyfarwyddiadau - pan fyddwch yn cyrraedd cylchfan Heol Llanboidy ar yr A40, trowch tua Llanboidy (y 3ydd allanfa os dewch o’r dwyrain neu'r 1af o'r gorllewin). Trowch i’r chwith yn syth ar ôl gadael y gylchfan (arwydd Abaty Hendy-gwyn) a dilynwch y ffordd honno am 0.7 milltir. Bydd y fynedfa i Abaty Hendy-gwyn ar y chwith, rhyw 100 llath ar ôl y gyffordd â’r ffordd gefn i Hendy-gwyn ar Daf.
Gan nad oes llawer o le i barcio ar y safle, byddwn yn cynnal gwasanaeth Parcio a Theithio ar gyfer y digwyddiad, a bydd arwyddion amlwg i’r man parcio ar y gylchfan.
Trafnidiaeth Gyhoeddus - Mae gorsaf drenau Hendy-gwyn ar Daf ar y brif lein rhwng Llundain ac Abergwaun.
Mae gan Hendy-gwyn ar Daf gysylltiadau bws â Chaerfyrddin, Dinbych-y-pysgod, Hwlffordd, ac ati.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Gwen 20 Medi 2024 |
11:00 - 17:00
|
Sad 21 Medi 2024 |
11:00 - 17:00
|