Drysau Agored - Amgueddfa ac Oriel Llandudno
Mae Amgueddfa ac Oriel Llandudno yn amgueddfa aml-gyfnod sy’n cael ei rhedeg gan ymddiriedolaeth elusennol. Mae gan yr Amgueddfa chwe oriel barhaol sy’n adrodd hanesion am orffennol Llandudno, o'r trigolion cynharaf, hyd at greu cyrchfan i ymwelwyr yn ystod cyfnod Fictoria, a'i le fel hafan ddiogel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Dewch i wybod mwy o pryd y cynhaliodd Llandudno yr Ŵyl Olympaidd ddwywaith, lle’r oedd ysbiwyr dwbl yn cael eu cartrefu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac am y cadwraethwyr cynnar yn ymgyrchu i achub yr hebog tramor.
I deuluoedd, mae yna lwybrau i blant, cwisiau, theatr Pwnsh a Jwdi lle gallan nhw berfformio eu sioeau eu hunain, a gardd fioamrywiaeth.
Fel rhan o Ddrysau Agored 2025, bydd Amgueddfa Llandudno yn cynnig mynediad am ddim ar 6 a 20 Medi, rhwng 10am a 4pm. Dewch i ddysgu am straeon difyr gorffennol Llandudno – o’i olion cynhanesyddol, ei anterth fel cyrchfan glan môr, a bywyd yno yn ystod y rhyfel. Bydd yno arddangosfeydd rhyngweithiol addas i’r teulu cyfan, felly dyma'r cyfle perffaith i ddysgu am dreftadaeth gudd y dref yn un o'i hadeiladau mwyaf hanesyddol. Mynediad olaf i'r amgueddfa am 3.15pm
Dim angen archebu.
Cyfeiriad - Amgueddfa Llandudno, 17-19 Stryd Gloddaeth, Llandudno, LL30 2DD.
Mae’r amgueddfa ar Stryd Gloddaeth, wrth ymyl Eglwys Gloddaeth a gyferbyn â Chapel Seilo.
Mae’r safle bws agosaf tua 3 munud o gerdded i ffwrdd.
Y maes parcio agosaf at yr amgueddfa yw maes parcio Neuadd y Dref.
Mae’r amgueddfa yn gwbl hygyrch ac mae lifft yno.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|