Skip to main content

Mae Archifdy Rhuthun, sy'n rhan o Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru, wedi'i leoli mewn hen Garchar yn Stryd Clwyd Rhuthun.
Mae’r ystafell chwilio a’r arddangosfeydd mewn rhannau o’r adeilad a adeiladwyd rhwng dechrau a chanol y 19eg ganrif, tra bod llawer o’r archifau wedi’u storio yn hen gelloedd y carchar.

Gogledd-ddwyrain Cymru’r 1920au
Mae Archifau Gogledd-ddwyrain Cymru yng Ngharchar Rhuthun ar agor ddydd Sadwrn 7 Medi i nodi can mlynedd ers Deiseb Heddwch Menywod Cymru ac yn edrych ar sut le oedd Sir Ddinbych gan mlynedd yn ôl. Bydd arddangosfa yn tynnu sylw at y degawd a elwir Y Dauddegau Gwyllt, degawd o newid, ffasiwn ac ymgyrchu.

Addas i deuluoedd.

Nid oes angen bwcio.

Cyfeiriad - 46 Stryd Clwyd, Rhuthun, LL15 1HP.

Mae Rhuthun yn cael ei gwasanaethu’n dda gan gludiant cyhoeddus o Gorwen, Caer, Dinbych, y Rhyl, Wrecsam a thu hwnt. Mae Stryd Clwyd yn daith gerdded fer o’r prif arosfannau bysiau yn Stryd y Farchnad a Ffordd Wynnstay.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:30 - 16:00