Skip to main content

Mae'n debyg fod y tŷ ffrâm bren hwn wedi’i adeiladu tua diwedd yr 16eg ganrif, gydag ychwanegiadau brics a stucco o'r 19eg ganrif. Mae bloc yr adeilad hwn i’w weld ar ddelwedd John Speed o Ddinbych a wnaed ar gyfer map y sir ym 1610, a dyma rai o’r adeiladau cyntaf i gael eu codi ar faes y farchnad. Mae'r llawr gwaelod ar agor fel arfer (fel asiantaeth deithio), a chewch wybodaeth am yr adeilad yno, ac mae grisiau yn arwain i'r llawr cyntaf lle gallwch weld ffrâm bren to’r adeilad.

Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn dechrau ddydd Gwener 20 Medi 2024, gyda darlith ddaeareg gyda'r hwyr yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y deuddydd canlynol, dydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 Medi 2024 rhwng 10am a 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol pwysig yr ardal ar agor i'r cyhoedd, a bydd gweithdai plant a theithiau tywys yn cael eu cynnal hefyd. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/gweithdai a theithiau tywys yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd ar gael trwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at ddechrau’r penwythnos.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yma - 
www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/
https://twitter.com/OpenDoors_D
https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Does dim angen archebu lle.

2 Crown Square, Dinbych, LL16 3AA.

///what 3words:
(Eng) ///state.carefully.knots
(Cym) ///cydiodd.hectar.areithio
 


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 17:00