Drysau Agored - Canolfan Addysg Gymunedol Taibach
Lleolir Canolfan Addysg Gymunedol Taibach yn yr hen Ysgol Eastern, a addysgodd blant ym Mhort Talbot o 1831 i ganol yr ugeinfed ganrif. Mae'r adeilad yn bennaf enwog am ei gysylltiad â Richard Burton, oedd yn un o sylfaenwyr y clwb ieuenctid ac a roddodd rai o'i berfformiadau cyhoeddus cynharaf ar y llwyfan yn y neuadd. Ar hyn o bryd, mae'r adeilad yn rhan o brosiect a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Bydd hyn yn arwain at ddatblygu llwybr treftadaeth newydd yn yr adeilad sy'n hyrwyddo ei hanes, yn ogystal ag adnewyddu'r neuadd a'r ystafell grefft.
Mae hwn yn ddigwyddiad arbennig iawn oherwydd ei fod yn agoriad cyhoeddus ein cynllun dehongli newydd yn y ganolfan gymunedol. Fel rhan o'n grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, rydym yn gosod llwybr treftadaeth a llinell amser trwy'r adeilad, gan ddefnyddio ymchwil archif ein gwirfoddolwyr a chyfweliadau hanes llafar. Bydd cyfle hefyd am deithiau o amgylch yr adeilad, arddangosfeydd ar ei hanes, a lluniaeth am ddim.
Canolfan Addysg Gymunedol Taibach, Heol Margam, Taibach, Port Talbot, Castell Nedd Port Talbot, SA13 2BN
Mae Canolfan Addysg Gymunedol Taibach yn hawdd ei chyrraedd ar y brif ffordd trwy Taibach ym Mhort Talbot. Mae rheiliau coch y tu allan i'r ganolfan ac mae lôn (gyda’r arwydd SNAC Special Needs Activity Centre) yn arwain o gwmpas cefn yr adeilad i ddigonedd o fannau parcio. Mae gorsaf drenau Port Talbot tua milltir o'r ganolfan, gyda bysiau’n rhedeg yn rheolaidd o ganolfan drafnidiaeth Port Talbot gerllaw'r orsaf. Mae llwybrau bysiau X1 ac 87 yn stopio ger y ganolfan.
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Medi 2025 |
11:00 - 15:00
|