Skip to main content

Yn 1914, codwyd Sefydliad Naylor Leyland, yn ôl pob golwg, i ddarparu addysg dechnegol yn y dref. Ei gymwynaswr oedd y Fonesig Naylor Leyland o Neuadd Nantclwyd gerllaw.

Parhaodd yr adeilad i gael ei ddefnyddio at bwrpasau addysgol tan o leiaf yr 1970au, gyda phobl leol yn cofio dosbarthiadau gwaith coed a gwyddoniaeth ddomestig o’r ysgol uwchradd leol yn cael eu cynnal yn y ganolfan. Yn yr 1960au, cyfarfu clwb ieuenctid y dref yn y ganolfan. Yn y 1990au a dechrau’r 2000au, daeth yn swyddfa i Wasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych sy’n parhau tan heddiw.

Ar gyfer Drysau Agored, bydd yr adeilad ar agor, yn dilyn gwaith adnewyddu diweddar, er mwyn i bobl weld dyluniad dechrau’r 20fed ganrif.

Mae Canolfan Naylor Leyland wedi’i lleoli ar Stryd y Ffynnon – LL15 1AF.

Mae Stryd y Ffynnon yn agos at Stryd y Farchnad a Ffordd Wynnstay lle mae bysiau’n stopio yn Rhuthun.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 08 Medi 2024
10:00 - 16:00