Skip to main content

Mae adeiladau ffrâm bren yng Nghanolfan Sgiliau’r Goedwig.

Mae’r adeiladau hyn yn defnyddio technegau adeiladu fframiau pren traddodiadol gyda chladio llarwydden, plastr calchfaen y tu fewn, insiwleiddio sy’n defnyddio gwlân dafad, llosgwr coed a tho ffotofoltaidd. Maen nhw hefyd yn cydymffurfio â gofynion cynllunio ac adeiladu’r unfed ganrif ar hugain er mwyn cynhyrchu adeilad carbon negyddol sydd â mynediad llawn i bobl anabl a Band Perfformiad Ynni A.

Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn lansio ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 gyda darlith nos mewn daeareg yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod sy’n dilyn, dydd Sadwrn a dydd Sul 21 a 22 Medi 2024 o 10am tan 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol bwysig lleol ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal â gweithdai plant a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/ gweithdai a'r teithiau tywys, yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd, ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at ddechrau'r penwythnos.

Gellir cael gwybodaeth bellach ar http://www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/, https://twitter.com/OpenDoors_D

 a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Cyfeiriad - Canolfan Sgiliau’r Goedwig, The Warren, Bodfari, Dinbych, LL16 4DT.

Cyfarwyddiadau – o’r gorllewin – ewch drwy Fodfari, ar ôl milltir (mae arwydd “gwyro am hanner milltir), ar ôl 150 llath trowch i’r chwith gyferbyn ag arwydd Canolfan Sgiliau’r Goedwig ar y dde. Mae mynedfa’r safle 600 llath ar y chwith.

Mae gwasanaeth bws 14 i'r Wyddgrug yn aros yn Aber Wheeler, yna taith gerdded chwe munud.

 


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 17:00