Drysau Agored - Canolfan/Parc Bryn Beili (Castell yr Wyddgrug)
Safle hanesyddol gyda rhywbeth at ddant pawb.
O goetir godidog a mannau chwarae naturiol, hudolus i hanes a chyfleoedd rhyfeddol ar bob troad, mae Bryn Beili yn berl hygyrch yng nghanol yr Wyddgrug.
Enwyd y lle ar ôl y castell mwnt a beili canoloesol a arferai sefyll yn falch yng nghanol y dref farchnad draddodiadol hon. Mae Bryn Beili yn barc cyhoeddus hyfryd ac iddo nifer fawr o wahanol ardaloedd i'w harchwilio. Cewch grwydro ymhlith adfeilion y castell, syllu ar Gylch yr Orsedd, mwynhau’r gofod tawel ac ymhyfrydu yn y golygfeydd syfrdanol – dyma’r lle perffaith i dreulio amser gyda ffrindiau a’r teulu.
Fel rhan o Drysau Agored, bydd taith dywys am ddim ar hanes y parc, dan arweiniad Gwirfoddolwyr Ymwelwyr Bryn y Beili. Bydd te a choffi i ddilyn yng Nghanolfan newydd Bryn y Beili.
Mae angen archebu lle. I archebu eich lle, e-bostiwch baileyhill@moldtowncouncil.org.uk gan roi’ch enw, nifer y lleoedd sydd eu hangen, eich manylion cyswllt a’ch cod post.
Mae 25 lle ar gael ar bob taith.
Lleoliad - Canolfan Bryn y Beili, Ffordd Ddinbych, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1BL.
Mapiau Google 'Mold Castle'
Mae modd parcio ychydig funudau o gerdded o’r brif fynedfa, yn Sgwâr Griffiths, CH7 1DJ. (Bydd angen talu).
Mae modd i fysiau barcio ym Maes Parcio Stryd Newydd.
Mae gorsaf Drenau Bwcle 4.2 milltir i ffwrdd a dyma’r orsaf drên agosaf i’r Wyddgrug.
Yr orsaf fysiau agosaf yw Gorsaf Fysiau'r Wyddgrug, sydd yng nghanol y dref, hanner milltir i'r dwyrain o Fryn y Beili. Mae gwasanaeth bws yn rhedeg yn rheolaidd i/o drefi cyfagos, a gwasanaeth bws rheolaidd rhwng gorsaf drenau Caer a gorsaf fysiau’r Wyddgrug.
Nid oes modd parcio ar y safle ar unrhyw adeg.
Mae Canolfan Bryn y Beili a’i chyfleusterau yn hygyrch i bawb. Fodd bynnag, oherwydd natur y safle, nid yw’r parc yn hygyrch i bawb
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 22 Medi 2024 |
11:00 - 12:30
14:00 - 15:30
|