Skip to main content

Mae Capel Pendref yn Gapel Annibynwyr, ac yn adeilad rhestredig Gradd II*. Dyma’r capel hynaf yn Rhuthun. Cyrhaeddodd ei ffurf bresennol yn 1875 ac mae ganddo fwa hardd o faen nadd ar ei flaen yn ogystal â chyntedd Tyscanaidd. Mae’r galeri ar dair ochr y tu mewn dan nenfwd blodeuog.

Dim angen archebu.

Stryd y Ffynnon, Rhuthun, LL15 1AH.

Ar Stryd y Ffynnon, Rhuthun. Safle bws gerllaw. Parcio cyfyngedig yn Sgwâr San Pedr. Meysydd parcio yn y dref a pharcio ar y stryd.

Gall fod yn anodd i rai gyrraedd ato. Gris o’r palmant. Grisiau wrth y brif fynedfa. Mynediad gwastad i’r festri yn y cefn.

Bydd gwasanaeth ar y bore Sul, a bydd y capel ar agor am hanner dydd ar gyfer Drysau Agored. Mae croeso i chi ymuno â’r gwasanaeth.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 08 Medi 2024
10:00 - 16:00