Drysau Agored - Capel Salem, Nantyffyllon, Maesteg
Capel Salem, ar Stryd Picton, y brif ffordd trwy Nantyffyllon, yw'r ail gapel a adeiladwyd gan ei gynulleidfa. Wedi'i ddylunio gan y pensaer o Lansawel, Henry Morgan Thomas, pan agorwyd ef yn 1873 roedd yn un o'r capeli crandiaf a mwyaf yng Nghymru, gyda lle i dros 1100 o bobl eistedd. Fe'i disgrifiwyd fel adeilad costus a godidog.
Y tu mewn mae’n olau, gyda balwstrad oriel haearn bwrw troellog a nenfwd deniadol wedi'i baentio.
Mae'r capel yng ngofal Addoldai Cymru, ac mae'r llawr gwaelod o dan y capel yn gartref i swyddfa'r elusen.
Ar gyfer Drysau Agored, bydd y capel ar agor, a bydd ymddiriedolwyr yn bresennol i hebrwng ymwelwyr rhwng 11am a 3pm.
Nid oes angen archebu ymlaen llaw.
Cyfeiriad - Stryd Picton, Nantyffyllon, Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, CF34 0HH.
Mae'r capel ar y brif ffordd trwy'r pentref ac mae'n hawdd ei weld o'r ffordd.
Gall parcio ar y brif ffordd fod yn anodd. Fodd bynnag, mae sawl stryd fechan o fewn pellter cerdded agos lle gellir parcio ceir heb broblem.
Mae dwy ris isel yn arwain at y brif fynedfa.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Medi 2025 |
11:00 - 15:00
|