Drysau Agored - Cyfleuster Adfer Ynni Parc Trident
Cyfleuster Adfer Ynni Parc Trident (ERF) yng Nghaerdydd yw'r ErF mwyaf yng Nghymru sy'n trin gwastraff o'r awdurdod lleol a chontractau busnes lleol. Mae'r cyfleuster, sydd wedi bod yn weithredol ers 2014, yn ymdrin â thua 350,00 tunnell o wastraff gweddilliol na ellir ei ailgylchu y flwyddyn. Mae'n dargyfeirio o leiaf 95% o wastraff na ellir ei ailgylchu yn Ne Cymru i ffwrdd o safleoedd tirlenwi ac yn cynhyrchu 250GWh o drydan ar gyfer y Grid Cenedlaethol.
A ydych chi erioed wedi meddwl beth sy’n digwydd i’ch gwastraff bin du ar ôl iddo adael eich tŷ? A wyddoch chi nad sbwriel yw eich gwastraff wedi’r cyfan, ac mae’n gallu cael ei drawsnewid yn ynni adnewyddadwy i bweru miloedd o gartrefi yng Nghaerdydd bob blwyddyn? Wel, dyma’r math o hud a lledrith sy’n digwydd bob dydd yng Nghyfleuster Adfer Ynni Parc Trident.
Hoffai Viridor eich gwahodd i fynd ar daith o amgylch y Cyfleuster Adfer Ynni yng Nghaerdydd, lle bydd rheolwr y ganolfan ymwelwyr yn dangos i chi sut mae gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi i’w brosesu’n ddiogel yn drydan a chynnyrch eraill sydd wedi'u hailgylchu ar gyfer y diwydiant adeiladu.
Mae gofod yn gyfyngedig iawn felly mae'n rhaid archebu lle.
Defnyddiwch y ddolen isod i archebu tocynnau am ddim ar gyfer taith ar y dyddiad mwyaf addas: https://www.eventbrite.co.uk/e/tourofviridorstridentparkenergyrecoveryfacilitytickets1629932364579?aff=oddtdtcreator
Lleoliad - Viridor Trident Park ERF, Glass Avenue, Ocean Way, Caerdydd, CF24 5EN.
Bydd angen i ymwelwyr yrru drwy’r rhwystr diogelwch ar Glass Avenue ac ar draws Pont Bwyso Viridor i gael mynediad i’r safle.
Bydd y daith o ERF yn cynnwys tua 2.5km o gerdded, weithiau ar dir anwastad, felly bydd angen rhoi gwybod am unrhyw ofynion symudedd cyn cyrraedd.
Oherwydd natur y safle, bydd angen gwisgo esgidiau cadarn caeedig (nid sandalau na fflip fflops ac ati). Bydd angen gwisgo llewys hir a throwsus hir hefyd.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 27 Med 2025 |
16:00 - 17:00
|
Sul 28 Med 2025 |
11:00 - 12:00
|