Skip to main content

Drwy gydol fis Medi, mae Cadw yn cynnal gŵyl Drysau Agored. 

Bydd dros 200 o safleoedd hanesyddol ar draws Cymru yn cynnig llu o ddigwyddiadau cyffrous am ddim, gan gynnwys teithiau tywys a phrofiadau ymdrochol – rhai ohonynt nad sydd wedi bod ar agor i’r cyhoedd o’r blaen.

Mae’r ymgyrch Drysau Agored yn rhan o ŵyl ehangach Diwrnod Treftadaeth Ewropeaidd – mi fydd yn cynnig cyfle unigryw i bobl o bob oed i gysylltu â’r gorffennol, profi diwylliant a datgelu’r holl hanesion sydd wedi llunio Cymru fel cenedl.

I ddathlu, rydym yn cynnig cyfle i ennill aelodaeth Cadw am flwyddyn*.

Mae’r broses yn syml:

  • Hoffwch ein post ar Facebook, Twitter neu Instagram (@cadwcymruwales ar Instagram, @CadwWales ar Facebook, neu @cadwcymru / @cadwwales ar Twitter)

  • Tagiwch rywun hoffech chi fynd ag i un o ddigwyddiadau Drysau Agored yn y sylwadau.

*Aelod yn barod? Byddwch yn gallu adnewyddu eich aelodaeth Cadw os ydych yn llwyddiannus.

Gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys rhestr lawn o’r safleoedd sy’n cymryd rhan, amserlen digwyddiadau a gwybodaeth tocynnau yn https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/drysau-agored

Telerau ac Amodau

  • Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 11.59yh ddydd Gwener 29 Medi.

  • Rhaid i'ch llun gael ei rhannu o fewn adran sylwadau post Cadw neu ei phostio'n organig ar Facebook, Instagram neu Twitter. 

  • Cystadleuaeth agored i aelodau Cadw a rhai nad ydynt yn aelodau Cadw. Wrth hawlio eich gwobr o aelodaeth dewiswch rhwng aelodaeth newydd neu adnewyddu. 

  • Byddwn yn cysylltu â’r enillydd trwy neges uniongyrchol o fewn 10 diwrnod i’r dyddiad gorffen i gadarnhau mai nhw yw’r enillydd, gyda chyfarwyddiadau ar sut i hawlio eu gwobr. Gwneir ymdrechion rhesymol i gysylltu â'r enillydd. Os na fydd yr enillydd yn ymateb o fewn 7 diwrnod, mae Cadw yn cadw'r hawl i gynnig y wobr i ymgeisydd arall. 
  • Ni fydd y cynigion hynny nad ydynt yn enillwyr yn derbyn gohebiaeth bellach gan Cadw am eu cais. 
  • Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rydych chi'n derbyn telerau ac amodau'r gystadleuaeth arolwg cyffredinol hon.