Skip to main content

Mae Dedwyddfa yn un o ddau eiddo yn Rhuthun a ddyluniwyd  gan y pensaer Fictoraidd o fri, John Douglas. Roedd wedi’i leoli yng Nghaer a bu’n gweithio’n helaeth i Ddug Westminster ac, yn yr achos hwn, i deulu Cornwallis-West Castell Rhuthun. Yn wreiddiol roedd cerbyty mawr yng ngardd y tŷ; cafodd hwn ei werthu a’i ddatblygu yn y 1970au. Mae’r tŷ yn rhestredig ac mae llawer o nodweddion gwreiddiol yr ardd yn goroesi. Mae’r tŷ (a’r tŷ drws nesaf) wedi’u lleoli’r naill ochr a’r llall i Fryn Goodman a, phan gawsant eu hadeiladu, roeddent mewn lleoliad cyfleus iawn ar gyfer yr orsaf gerllaw, sydd hefyd wedi’i dymchwel.

Mae angen archebu lle. Ar y ddau ddiwrnod dros y penwythnos, dydd Sadwrn 7 Medi a dydd Sul 8 Medi, cynhelir dwy daith o gwmpas tu mewn Dedwyddfa. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd, felly archebwch eich lle yn gynnar i osgoi cael eich siomi. Cynhelir y teithiau am 11am ac am 3pm ar y ddau ddiwrnod. Anfonwch e-bost at opendoorsruthin@outlook.com i archebu eich lle, gan nodi’r diwrnod a’r amser yr hoffech.

Dedwyddfa - LL15 1EL.

Mae Dedwyddfa wedi’i leoli ar waelod Bryn Goodman, yn agos at brif gylchfan Briec yn Rhuthun. Nid oes lle i barcio ar y safle, felly bydd angen cerdded o ganol Rhuthun neu o’r maes parcio agosaf sydd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ac yn Stryd y Farchnad Rhuthun.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
11:00 - 16:00
Sul 08 Medi 2024
11:00 - 16:00