Mae Eglwys Gadeiriol Llandaf yn un o safleoedd Cristnogol hynafol Cymru a hon yw Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd Caerdydd. Wedi'i hadeiladu ym 1120, dyma sedd Esgob Llandaf ac mae'n nodedig am ei phensaernïaeth Gothig a Normanaidd. Wedi'i hadfer ar ôl cael ei bomio yn yr Ail Ryfel Byd, mae'n parhau i fod yn lle addoli a threftadaeth pwysig, yn ogystal ag un o leoliadau mwyaf poblogaidd Caerdydd ar gyfer cyngherddau.
Ar ddydd Sadwrn 12 Medi, bydd cyfle i archwilio archifau'r eglwys gadeiriol, ymuno â thaith dywys, a chyfle prin hefyd i fynd ar daith o amgylch Tŵr Jasper.
Yn ogystal, bydd organyddion yr eglwys gadeiriol yn cynnig arddangos organ Nicholson 2010 yr eglwys gadeiriol, yr organ newydd fwyaf o'i fath yn y DU.
Rhaid archebu lle ar gyfer teithiau'r tŵr. Mae'r rhain ar gyfer uchafswm o ddeuddeg o bobl a dim
plant o dan wyth oed. Gellir archebu'r rhain ar wefan yr eglwys gadeiriol www.llandaffcathedral.org.uk
Nid oes angen archebu lle fel arall - heblaw am y teithiau tŵr.
Cyfeiriad - Eglwys Gadeiriol Llandaf, Clôs y Gadeirlan, Llandaf, Caerdydd, CF5 2LA.
Ceir mynediad i gadeiriau olwyn ym mhen dwyreiniol a gorllewinol yr eglwys gadeiriol.
Mae llefydd parcio i geir yn ardal yr eglwys gadeiriol yn rhad ac am ddim a heb gyfyngiadau. Mae maes parcio ar gael hefyd oddi ar Stryd Fawr Llandaf sydd am ddim am y ddwy awr gyntaf.
Mae'n daith 10 munud ar y trên o Gaerdydd Canolog i'r Tyllgoed, gyda 10 i 15 munud ar droed o'r Tyllgoed i'r eglwys gadeiriol.
Mae llwybrau bysiau 25, 63 neu 66 o Heol y Porth (ger Stadiwm y Mileniwm) yn cymryd 25 i 30 munud i deithio i'r arhosfan y tu allan i dafarn y Llew Du, sy’n agos i Stryd Fawr Llandaf.
Mae'r holl fanylion i'w gweld ar y wefan www.llandaffcathedral.org.uk
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 12 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|