Drysau Agored - Eglwys Sant Cadog, Llangatwg Feibion Afel
Dyma eglwys sydd â’i gwreiddiau yn y Canol Oesoedd, a hon oedd y clas i gymuned fawr ac un o eglwysi pwysicaf yr ardal.
Fodd bynnag, dim ond rhan o'r tŵr sy’n weddill o’r adeilad gwreiddiol. Codwyd y tŵr a’i gyntedd o dywodfaen coch, a saif yng nghornel dde-orllewinol yr eglwys. Mae’n meinio ychydig wrth godi, ac mae arno do siâp pyramid (tybir i’r to hwn gael ei osod yn ystod y gwaith adfer a wnaed yn 1875). Uwchlaw porth y cyntedd ceir agoriad Tuduraidd i oleuo siambr y clychau. Mae'r tŵr yn cynnwys chwe chloch sy’n dyddio o'r 18fed a'r 19eg Ganrif.
Yn 1866, cafodd yr eglwys ei hadfer a'i hailaddurno'n foethus gan y Meistri Cox a'u Meibion, a hynny ar bwrs John Etherington Rolls o'r Hendre. Yn 1875, ychwanegodd y pensaer Thomas Henry Wyatt (1807–80) eil ogleddol, ehangwyd y gangell gan ychwanegu cyntedd a siambr organ, a gwnaed rhywfaint o waith ailfodelu ar y tu mewn.
Mae yn Eglwys Sant Cadog ffenestri lliw gan dri gwneuthurwr Fictoraidd a oedd ar eu hanterth ar y pryd. Mae'r ffenestr ddwyreiniol (1875) gan Lavers & Barraud, mae ffenestri'r gangell (1866) gan Heaton, Butler & Bayne, ac mae'r ffenestr orllewinol yn y corff (1879) yn un o weithiau cynnar C E Kempe. Mae gwaith arall gan Kempe (1884) i'w weld yng Nghapel Rolls. Mae ffenestr yn ochr ddeheuol y corff hefyd (1914), gan Powells o Whitefriars.
O fewn y porth deheuol mae casgliad ardderchog o gerrig beddau o'r 17eg a'r 18fed Ganrif. Mae'r Anrhydeddus Charles Stewart Rolls, yr awyrennwr arloesol, wedi’i gladdu ym mynwent yr eglwys. Bu farw yn 1910 mewn damwain hedfan, y tro cyntaf i rywun gael ei ladd mewn awyren ym Mhrydain. Dyma’r un C. S. Rolls a gyd-sylfaenodd y cwmni Rolls-Royce.
Y ffordd rhwng The Grange a Llanvolda
Llangatwg Feibion Afel
Sir Fynwy
NP25 5NG
Cyfeirnod grid OS
SO456156
what3words:
fortunate.vans.flood
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 06 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 07 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Llun 08 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Maw 09 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Mer 10 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Iau 11 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Gwen 12 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sad 13 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 14 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Llun 15 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Maw 16 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Mer 17 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Iau 18 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Gwen 19 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sad 20 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 21 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Llun 22 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Maw 23 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Mer 24 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Iau 25 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Gwen 26 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sad 27 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 28 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Llun 29 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Maw 30 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|