Drysau Agored - Eglwys Sant Cadog, Trefddyn, Pont-y-pŵl
Adeilad rhestredig gradd 2 gydag ychydig o nodweddion canoloesol. Ailadeiladwyd yr adeilad gan fwyaf gan y tirfeddianwyr lleol, yr Hanburys, yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Ceir y cyfeiriad swyddogol cyntaf at yr eglwys yn 1254 yng Nghyfrifiad Treth Norwich. Mae yna lawer o chwedlau ynghylch hanes yr eglwys a’r adeilad gwreiddiol. Codwyd y groes bregethu y tu allan i ddrws y tŵr yn 1856 ond mae’r sylfaen y mae’n sefyll arni yn dyddio o’r 7fed ganrif.
Sbotolau ar Eglwys Sant Cadog ac ardaloedd cyfagos Trefddyn a Phont-y-pŵl. Bydd taflenni gwybodaeth a sgyrsiau am hanes, digwyddiadau nodedig ac ati. Bydd gwirfoddolwyr hanes teulu yn agor cronfeydd data ar gyfer ymchwil a bydd cofrestri’r plwyf ar agor. Bydd gwirfoddolwyr wrth law i helpu i leoli beddau. Teithiau o’r eglwys â’r tŵr. Bydd yna amrywiaeth o stondinau yn ogystal â dewis o luniaeth ar gael drwy gydol y dydd. Raffl hefyd.
Eglwys Sant Cadog, Heol Pen-y-garn, Trefddyn, Pont-y-pŵl NP4 8JA
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Med 2025 |
10:30 - 15:00
|