Skip to main content

Eglwys o’r 15fed ganrif gyda chorff dwbl wedi ei lleoli mewn pentref. Mae nodweddion canoloesol yn cynnwys rhan o groglen, mosaig o wydr lliw y credir iddo ddod o’r ffenestr Ddwyreiniol wreiddiol, cofadail i farchog o’r 14eg ganrif, a chist fawr y plwyf.  Porth mynwent o ddechrau’r 18fed ganrif. Mae’r adfer a gynhaliwyd gan John Dando Sedding yn 1872 yn cynnwys ffenestr gwydr lliw gan Nathaniel Westlake. Mae’r fynwent yn cynnwys croes bregethu o’r 15fed ganrif a nifer o goed yw hynafol.

Eglwys Sant Cynfarch a Santes Fair, Llanfair Dyffryn Clwyd, Ruthun, LL15 2RJ.

Lleolir yr eglwys yng nghanol pentref bychan Llanfair Dyffryn Clwyd, ar yr A525 i’r de o Ruthun. Mae bysiau sy’n rhedeg rhwng Wrecsam a Rhuthun yn stopio yn y pentref.

Efallai y bydd gwasanaeth yn yr eglwys ar fore Sul, 8 Medi. Bydd Drysau Agored yn dechrau ar ôl hyn ar y dydd Sul.

Dim angen archebu.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 08 Medi 2024
10:00 - 16:00