Mae eglwys Sant Cynhaearn yn sefyll ar ddiwedd sarn hynafol, a gafodd ei hadeiladu ar ynys yn Llyn Ystumllyn sydd bellach wedi'i ddraenio. Mae'r eglwys yn teimlo fel eglwys ystâd hwyr-Sioraidd gyflawn o 1832, er iddi wasanaethu fel eglwys y plwyf ar gyfer yr ardal ehangach, nes i Borthmadog ddarparu ei man addoli ei hun ar ddiwedd y 19eg ganrif.
Mae'r transept gogleddol, sy'n dyddio o 1622 o ran deunydd, yn llawn corau haenog wedi'u paentio'n ofalus gydag enwau perchnogion yr ystadau a oedd â hawl i eistedd ynddynt. Yn union gyferbyn â thransept y gogledd mae'r pulpud triphlyg llawn, gyda lle i’r offeiriad sy’n cyflwyno’r bregeth a desg i'r rhai sy'n cyflwyno'r darlleniadau. I'r gorllewin mae galeri, ac ynddo mae organ siambr Flight a Robson, a ddaeth yma o eglwys Tremadog yn 1854.
Mae dwy ffenestr gwydr lliw ardderchog, y ddwy gan Powell a’i Feibion. Mae ffenestr ddwyreiniol a gafodd ei gosod yn 1899 yn darlunio golygfa o'r geni, tra bod dwy ffenestr olau o 1906 yn nhransept y gogledd yn dangos Sant Cynhaearn a Dewi Sant.
Y tu allan, mae'r fynwent yn ddiddorol hefyd. Yn unigryw, mae'n cynnwys bedd dyn du o’r enw John Ystumllyn (neu Jac Du/Jack Black) a gafodd ei gipio yn Affrica tua 1742 ac a ddaeth i wasanaethu teulu Wynne, a oedd yn berchen ystâd Ystumllyn o gwmpas yr eglwys.
Mae telyn wedi'i cherfio ar feddrod yn nodi man gorffwys y telynor a'r cyfansoddwr, David Owen a adnabyddir fel Dafydd y Garreg Wen, sef enw ei fferm yn Ynyscynhaearn. Cyfansoddodd gainc o’r enw hwnnw, ar ei wely angau yn 1749 (ac yntau ond yn naw ar hugain oed) a chafodd y gainc honno ei pherfformio yn yr eglwys yn ei angladd. Cafodd ei chanu eto yn 1923 gan Mostyn Thomas, y geiriau Cymraet cyntaf i'w darlledu ar y BBC, a chaiff ei pherfformio yn y Gwasanaeth Coffa blynyddol yn y Senotaff yn Whitehall.
Cyfeiriad: Ynyscynhaearn, Pentrefelin, Gwynedd, LL52 0PT.
Sylwch nad yw Ynyscynhaearn i’w weld ar Google Maps.
Mae mynediad i'r eglwys hon drwy giât gul, sy’n ddigon llydan ar gyfer car, oddi ar y brif ffordd. Mae'n anodd ei fethu, felly cadwch lygad am ddau bostyn giât carreg. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cau pob giât ar eich hôl, er mwyn diogelu da byw'r ffermwyr.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Maw 01 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Mer 02 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Iau 03 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Gwen 04 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sad 05 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 06 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Llun 07 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Maw 08 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Mer 09 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Iau 10 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Gwen 11 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sad 12 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 13 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Llun 14 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Maw 15 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Mer 16 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Iau 17 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Gwen 18 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sad 19 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 20 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Llun 21 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Maw 22 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Mer 23 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Iau 24 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Gwen 25 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sad 26 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 27 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Llun 28 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Maw 29 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Mer 30 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|