Drysau Agored - Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Aberdâr
Mae Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yn eglwys blwyf hynafol Gradd II, a adeiladwyd yn wreiddiol yn 1189, gyda rhywfaint o'i phensaernïaeth wreiddiol yn dal i fod yn gyfan.
Ar gyfer Drysau Agored, bydd sgwrs treftadaeth am ddim am yr adeilad rhestredig Gradd II gwych hwn, a gyflwynir gan Heritage and Community. Bydd y sgwrs yn cael ei thraddodi am 1pm - 2pm.
Rhaid archebu lle ymlaen llaw. Gellir archebu tocynnau drwy ddilyn y ddolen hon - https://www.ticketsource.co.uk/stelvans/t-garnklv
Bydd yr adeilad hefyd ar agor trwy gydol y dydd ar gyfer ymweliadau.
Cod post - CF44 7NP.
Mae’r eglwys yng nghanol tref Aberdâr a gellir ei chyrraedd gan ddefnyddio pob math o drafnidiaeth. Sylwch nad oes lleoedd parcio ar y safle.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Gwen 19 Med 2025 |
12:00 - 15:00
|