Drysau Agored - Eglwys Sant Martin, Talacharn
Mae’r eglwys blwyf ganoloesol hon ar gyrion tref hynafol Talacharn, ac o’i hamgylch mae mynwent ddiddorol sy’n cynnwys hen goed ywen atmosfferig. Mae’r eglwys a’r fynwent ill dwy yn henebion rhestredig gradd 2. Mae Dylan Thomas, y bardd enwog, wedi ei gladdu yma.
Ar gyfer Drysau Agored, bydd nifer o arddangosfeydd o hen gofrestrau, llinell amser o wybodaeth am yr eglwys trwy'r canrifoedd, a hen ffotograffau, yn ogystal ag arteffactau hynafol.
Dim angen archebu.
Eglwys Sant Martin, Talacharn, SA33 4QP.
Lleoliad – mae'r eglwys ar yr ochr chwith wrth i chi ddod i mewn i Dalacharn o Sanclêr. Mae maes parcio o flaen yr eglwys..
Ceir llwybr eithaf serth o’r Porth i fyny at yr eglwys; ceir stepiau wrth fynedfa’r eglwys a mwy o stepiau y tu mewn rhwng y corff a’r gangell.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Medi 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 21 Medi 2025 |
10:00 - 16:00
|