Drysau Agored - Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Saint, Llanfihangel Rogiet
Mae’r hen eglwys hon, sy’n adeilad canoloesol a chanddo eil ogleddol o 1904, o dan ofal Cyfeillion Eglwysi Digyfaill.
Mae dwy ddelw ganoloesol tu mewn (sydd wedi gweld dyddiau gwell) y tybir mai Martel a’u creodd.
Preswyliwr enwocaf y plwyf bychan hwn oedd Henry Jones oedd fwyaf adnabyddus am ddyfeisio blawd codi.
Bydd yr eglwys ar agor i ymwelwyr.
Cyfeiriad: Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel Rogiet, Caldicot, Sir Fynwy, NP26 3UR.
Gadewch yr M4 yng Nghyffordd 23A; ar y B4245 – drwy Fagwyr a Gwndy. O dan yr M4 – mae’r eglwys ar y chwith.
Saif yr eglwys ar fferm sy’n cael ei defnyddio. Gofynnir i ymwelwyr barchu hyn.
Parciwch yn y gilfan fechan tu allan i fynedfa buarth y fferm.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 27 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 28 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Llun 29 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Maw 30 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|