Skip to main content

Cysegrwyd Eglwys Sant Paul, Sgeti, ym 1850, ac fe'i hadeiladwyd gan Henry Woodyer ar gyfer y teulu Vivian, fel cofeb i wraig ifanc un o'r teulu Vivian a fu farw yn dilyn genedigaeth. Roedd teulu Vivian o Abaty Singleton yn ddiwydianwyr lleol amlwg a chwaraeodd ran flaenllaw yn y diwydiant copr yn Abertawe, oedd yn cael ei adnabod hefyd fel Copperopolis, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyfrannodd diwydianwyr blaenllaw eraill y cyfnod hefyd at adeiledd yr eglwys, sy'n enghraifft wych o eglwys ganol oes Fictoria.

Bydd yr eglwys ar agor ar gyfer Drysau Agored, a gall ymweliadau fod yn rhai hunan-dywys neu bydd gwirfoddolwyr yn bresennol i dywys pobl o gwmpas. Mae taflen fer ar gael i'w phrynu, a bydd te a choffi yn cael eu gweini yng nghanolfan y plwyf gerllaw.

Cyfeiriad - Eglwys Sant Paul, Heol De La Beche, Sgeti, Abertawe, SA2 9AR.

Mae bysiau lleol yn rhedeg yn aml o Orsaf Fysiau'r Cwadrant, gyda safle bws ar Gower Road yn agos at yr eglwys a Heol De La Beche.

Mae maes parcio gerllaw'r eglwys a chanolfan y plwyf. Mae mynediad i'r maes parcio ar Heol De La Beche.

Mae mynediad i'r anabl i'r eglwys, ac mae toiledau ar gael yng nghanolfan y plwyf.

Nid oes angen archebu lle.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
09:30 - 18:00