Skip to main content

Codwyd yr eglwys hon yng nghanol y 19eg Ganrif, i gymryd lle Capel Hilari, nad oes dim ohoni ar ôl bellach heblaw am ei thŵr ger y castell. Dyma eglwys fawr wedi’i hadeiladu o galchfaen lleol lliw golau, mewn arddull Gothig Fictoraidd eclectig, gyda thŵr can troedfedd sydd â chloc ac wyth cloch. Mae’r gwaith pwyntio afreolaidd wedi’i wneud ar y cerrig, ac mae’r dresin wedi’i wneud o gerrig o chwareli Minera. Mae ganddi nifer o ffenestri lliw deniadol, a chrëwyd y ffenestr nodwedd, sy’n dangos Golygfeydd o'r Testament Newydd gyda'r Deuddeg Apostol, yn 1880. Yn anarferol, y penseiri a ddyluniodd y ffont, y reredos a'r pulpud hefyd.

Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn dechrau ddydd Gwener 20 Medi 2024, gyda darlith ddaeareg gyda'r hwyr yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y deuddydd canlynol, dydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 Medi 2024 rhwng 10am a 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol pwysig yr ardal ar agor i'r cyhoedd, a bydd gweithdai plant a theithiau tywys yn cael eu cynnal hefyd. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/gweithdai a theithiau tywys yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd ar gael trwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at ddechrau’r penwythnos.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yma - 
www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/
https://twitter.com/OpenDoors_D
https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau.

Cyfeiriad - Santes Fair Forwyn, Pwll y Grawys, Dinbych, LL16 3HF.
///what 3words: (CYM) ///barlys.eglurodd.clir   (Eng) ///tests.joined.roost

Cyfarwyddiadau – o Stryd Fawr Dinbych, cerddwch i ffwrdd o'r llyfrgell a mynd ymlaen i lawr Stryd y Bont i Bwll Lenton. Mae'r eglwys y tu ôl i'r gylchfan hon i'r chwith.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 16:00