Drysau Agored - Hen Orsaf yr Heddlu, Porthcawl
Adeiladwyd yr adeilad hwn yn 1882, ac roedd yn orsaf heddlu tan 1973.
Roedd Amgueddfa Porthcawl mewn dwy ystafell rhwng 1977-2014 ac yna, yn 2015, rhoddwyd prydles i Bwyllgor Amgueddfa Porthcawl gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y llawr gwaelod cyfan a chwe ystafell ar Lawr 1 sydd bellach yn archifdy. Mae'r llawr gwaelod bellach yn gartref i ddeunaw arddangosfa, gyda dwy newydd yn y broses o gael eu creu.
Mae Porthcawl yn cynnal Gŵyl Elvis fwyaf Prydain bob mis Medi. Mae'r amgueddfa yn cefnogi'r ŵyl trwy arddangos holl albymau Elvis a thrwy ddarparu dynwaredwr Elvis ifanc. Yn ogystal, bydd gwirfoddolwyr mewn gwisg berthnasol.
2025 yw'r unfed tro ar hugain i Ŵyl Elvis gael ei chynnal, ac mae’n rhan o hanes 200 mlwydd oed Porthcawl, 1825-2025.
Nid oes angen archebu lle.
Hen Orsaf yr Heddlu, John Street, Porthcawl, CF36 3DT.
Mae'r adeilad yng nghanol John Street.
Bydd lleoedd parcio i’w cael yn y maes parcio ar Stryd Mary. Cewch barcio yn rhad ac am ddim rhwng 12 a 3pm.
Mae maes parcio arall ger Aldi - £3 drwy'r dydd.
Y bysiau o Ben-y-bont ar Ogwr yw bws rhif 63 a'r X2. Mae'r bysiau'n stopio yn yr orsaf fysiau newydd ger Aldi.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 27 Medi 2025 |
11:00 - 15:00
|