Drysau Agored - Llyfrgell Machynlleth
Mae Llyfrgell Machynlleth, sydd wedi'i lleoli ar Heol Maengwyn yng nghanol Machynlleth, yn safle sydd â gwreiddiau hanesyddol arwyddocaol. Cyn sefydlu'r llyfrgell, roedd y safle yn gartref i Eglwys Crist, capel Presbyteraidd Saesneg a adeiladwyd ym 1881. Caewyd yr eglwys ar gyfer addoli ar 3 Hydref 1965 ac fe'i dymchwelwyd ym mis Awst 1967. Mae carreg sylfaen Eglwys Crist, a osodwyd gan Mary Cornelia, Ardalyddes Londonderry, ar 1 Mehefin 1881, wedi'i chadw ac mae bellach yn cael ei harddangos wrth fynedfa'r llyfrgell.
Heddiw, mae Llyfrgell Machynlleth yn parhau i wasanaethu fel canolfan gymunedol hanfodol, gan gyfuno gwasanaethau modern gydag etifeddiaeth hanesyddol gyfoethog.
Ewch i'r llyfrgell am Sgwrs a Gweithdy gyda’r awdur Lissa Morgan, ar y testun A Magical Journey Through Myth and Imagination
Camwch i fyd chwedlau hynafol, tirweddau Cymreig, a straeon cyffrous gyda'r awdur rhamant hanesyddol lleol Lissa Morgan. Yn ystod y sgwrs afaelgar a’r gweithdy rhyngweithiol hwn, byddwch yn clywed sut mae hanes go iawn yn ysbrydoli ffuglen ac yn archwilio sut i greu eich straeon eich hun wedi'u gwreiddio mewn myth a rhamant.
Perffaith ar gyfer darllenwyr, awduron, a’r sawl sydd wrth eu boddau â hanes a rhamant!
Nid oes angen archebu tocyn ymlaen llaw.
Cyfeiriad - Llyfrgell Machynlleth, Heol Maengwyn, Machynlleth, SY20 8DY.
Wedi'i leoli ar Heol Maengwyn (prif stryd Machynlleth) gyferbyn â Senedd-dy Owain Glyndŵr.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Mer 24 Medi 2025 |
14:00 - 15:00
|