Drysau Agored - Mynwent Gyhoeddus Llanbeblig, Caernarfon
Ceir pum bedd Cymanwlad o Ryfel 1914-1918 a 47 o Ryfel 1939-1945 ym Mynwent Gyhoeddus Llanbeblig. Bedd Morwr anhysbys o’r Llynges Fasnachol yw un o feddau 1939-1945.
Ewch i ymweld a darganfod mwy am waith Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, gan archwilio beddau’r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd sydd yn ei ofal, a chlywed straeon y bobl sy’n cael eu coffáu ym Mynwent Gyhoeddus Llanbeblig.
Nid oes angen archebu ymlaen llaw.
Cyfeiriad - Ffordd Cwstenin, Caernarfon, LL55 2SZ.
Gellir cyrraedd y fynwent mewn car o ganol Caernarfon ar hyd Ffordd Cwstenin (wedi'i harwyddo fel yr A4085 tuag at Feddgelert).
O ganol Caernarfon, gallwch hefyd gyrraedd y fynwent drwy fynd ar fws S3.
Mae'r safle yn un gwastad a does dim grisiau yno. Argymhellir esgidiau fflat a dillad cyfforddus er mwyn cerdded o amgylch y safle.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Med 2025 |
11:00 - 12:00
|