Drysau Agored - Mynwent Wrecsam
Agorwyd Mynwent Wrecsam yn 1876, ac mae wedi'i gwasgaru ar draws deunaw erw ac yn cynnwys tua 39,000 o feddau. Mae'r 64 o feddau o'r Rhyfel Byd Cyntaf ym Mynwent Wrecsam wedi'u gwasgaru ar draws tiroedd y fynwent. Mae plot yr Ail Ryfel Byd yn Adran D yn cynnwys tri grŵp bach o feddau, y grŵp cornel sy'n cynnwys 48 o feddau rhyfel y Gymanwlad, a'r grŵp arall yn cynnwys beddau Pwylaidd bron yn gyfan gwbl.
Yn ystod y daith, byddwch yn dysgu am hanes Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad ac am weithredoedd arwrol a hunanaberth ambell un o’r rhai a gladdwyd yn y fynwent.
Nid oes angen archebu ymlaen llaw.
Cyfeiriad - 140 Ffordd Rhiwabon, Wrecsam, LL13 7RE.
Mae'r gwasanaethau bws canlynol o Orsaf Fysiau Wrecsam yn stopio y tu allan i Fynwent Wrecsam: 2, 2A, 2C. Mae'n daith tua 10 munud o hyd.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Med 2025 |
15:00 - 16:00
|