Skip to main content

Codwyd yr adeilad presennol ym 1863-5, ychydig wedi i'r rheilffordd ddod i Ruthun, a hynny yn lle'r hen neuadd y dref a safai ar Sgwâr San Pedr. Disodlwyd yr adeilad hwn, a godwyd o hen gangell yr eglwys, gan adeilad newydd ar Stryd y Farchnad oedd newydd ei hadeiladu. Codwyd Stryd y Farchnad i gysylltu Sgwâr San Pedr â’r orsaf reilffordd a safai lle mae cylchfan Brieg heddiw. Y penseiri oedd Poundley a Walker; fe'i hadeiladwyd gan y cyngor bwrdeistref lleol ac roedd yn cynnwys neuadd farchnad a neuadd y dref. Cynhyrchwyd y paneli tywodfaen cerfiedig sydd ar y tu allan gan Edward Griffith o Gaer. Ar ail lawr neuadd y dref mae neuadd fawr a ddefnyddid ar gyfer perfformiadau a dawnsfeydd. Yn wreiddiol, fel gorsaf dân yr adeiladwyd y rhan honno o’r adeilad sydd agosaf at San Pedr. Yn ddiweddar ailddechreuwyd marchnad yn neuadd y farchnad ac mae cynlluniau ar y gweill i agor a defnyddio adeilad hardd Neuadd y Dref.

Mae Neuadd y Dref a Neuadd y Farchnad drws nesaf i’w gilydd yn Stryd y Farchnad Rhuthun; y cod post yw Ll15 1BE a’r cyfeirnod grid yw SJ12655840

Mae Neuadd y Farchnad a Neuadd y Dref yn Rhuthun yn agos at ganol y dref yn Stryd y Farchnad sy’n arwain i lawr o Sgwâr San Pedr sydd mewn lleoliad canolog. Mae'r ddwy neuadd gerllaw arosfannau bysiau yn Stryd y Farchnad a Ffordd Wynnstay lle mae bysiau i ac o Gaer, Yr Wyddgrug, Wrecsam, Dinbych a'r Rhyl yn aros.

Dim angen archebu.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 08 Medi 2024
10:00 - 16:00