Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae Perllan Treftadaeth Sain Ffraid wedi'i lleoli ym mhentref Sain Ffraid yn Sir Benfro, ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae'r berllan yn rhan o'r ardd furiog sy'n cynnwys coed ffrwythau hynafol a hefyd rhai nodweddion archeolegol diddorol.

Mae hwn yn gyfle unigryw i ymweld â'r berllan, nad yw fel arfer ar agor i'r cyhoedd. Bydd digon yn digwydd, gan gynnwys gweithgareddau crefft i blant, gwasgu afalau, taith hanes hunan-dywysedig, llwybr afalau a mwy. Bydd ceidwaid wrth law i siarad am y berllan dreftadaeth a'r coed afalau hynafol a geir ynddi. 

Efallai yr hoffech chi fynd am dro hamddenol o amgylch y berllan a mwynhau’r awyrgylch, neu ddod â blanced a chael picnic yn yr ardd furiog.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal y tu mewn i'r ardd furiog.
Bydd modd parcio ceir yn rhad ac am ddim ar y safle
Mae hwn yn ddigwyddiad awyr agored sy’n dibynnu ar y tywydd. Os caiff y digwyddiad ei ganslo, bydd hyn yn cael ei hysbysu trwy wefan y berllan a sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Nid oes angen archebu tocyn ymlaen llaw.

Cyfeiriad - Perllan Sain Ffraid, Sain Ffraid, Sir Benfro, SA623AJ.
Cyfeirnod grid SM803109


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 27 Medi 2025
11:00 - 15:00