Skip to main content

Darganfyddwch erddi syfrdanol Plas yn Rhiw, maenor o'r 17eg ganrif sy’n sefyll uwchben Bae Ceredigion. Crwydrwch yr ardd brydferth sy'n llawn blodau llachar, llwyni a gwelyau â gwrychoedd bocs. Mwynhewch gerdded trwy'r berllan, y ddôl a'r coetiroedd.

Er bod y tŷ ar gau ar hyn o bryd i gael ei adnewyddu, bydd un o'r ystafelloedd ar agor.

Gerllaw, mae Sarn y Plas, sy’n swatio o dan goedwig Plas yn Rhiw, yn fwthyn hanesyddol a fu unwaith yn gartref i’r bardd R.S. Thomas a'i briod, M.E. Eldridge.

Ar 12 Medi bydd Bwthyn yr Ardd ar agor. Mae’r gyn-breswylfa hon ar gyfer garddwr bellach yn fwthyn gwyliau hyfryd.

Oriau agor ar gyfer Drysau Agored -
Gardd. 10:30am - 4:30pm.
Ystafell de. 10:30am - 4:30pm.
Sarn y Plas. 11am - 3pm.
Tŷ. 11am - 4pm.

Does dim angen archebu.

Cyfeiriad – Plas yn Rhiw, Rhiw, Pwllheli, LL53 8AB.

Cyfarwyddiadau - o Bwllheli: dilynwch yr A449 i Lanbedrog. Trowch i'r dde ar y B4413, gan ddilyn yr arwyddion brown ar gyfer Plas yn Rhiw tuag at Aberdaron.
O Nefyn: cymerwch y B4417 i Bengroeslon, yna ymunwch â'r B4413. Trowch i'r dde am Aberdaron neu i'r chwith am Bwllheli. Osgowch y lonydd cul mae’r Sat Nav yn eu hawgrymu.
O Aberdaron: dilynwch y B4413 am 8 milltir at arwydd Plas yn Rhiw. Mae parcio hygyrch ar y chwith. Mae'r prif faes parcio 80 llath i lawr yr allt ar y dde.
Parcio: mae'r prif faes parcio ar dro cyn bryn serth (mae yna arwyddion). Mae parcio hygyrch ymhellach ar y dde (lôn gul, ddim yn addas ar gyfer cerbydau llydan).


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Iau 12 Medi 2024
10:30 - 16:30
Sad 14 Medi 2024
10:30 - 16:30