Drysau Agored - Safle Monitro Corfflu’r Gwylwyr Brenhinol, Aberhonddu
Roedd Safle Corfflu’r Gwylwyr Brenhinol yn rhan o dros 1500 o safleoedd monitro niwclear Corfflu’r Gwylwyr Brenhinol wedi'u lleoli ar draws y DU, i fonitro effeithiau ffrwydradau bomiau niwclear a llwch ymbelydrol yn ystod y Rhyfel Oer rhwng y 1960au cynnar a’r 1990au.
Mae Safle Aberhonddu wedi cael ei adfer i'r hyn y byddai wedi edrych pan oedd yn weithredol yn ystod y Rhyfel Oer, gyda'r holl offer cyfathrebu yn gweithio i ail-greu'r awyrgylch yn y cyfnod yn arwain at wrthdaro niwclear.
Bydd y Safle ar gael i aelodau'r cyhoedd - i ymweld ag ef i gael syniad o'r hyn a ddigwyddodd ledled y DU yn ystod y Rhyfel Oer a chael cyn-aelodau Corfflu’r Gwylwyr Brenhinol yn esbonio'r hyn a wnaethant.
Mae'r ymweliad yn cynnwys mynd 15 troedfedd o dan y ddaear i lawr ysgol. Dim ond pobl sy'n ffit ac yn gallu dringo'r ysgol, a phlant o dan 12 oed gyda chaniatâd eu rhieni, sy'n cael mynd o dan y ddaear.
Mae angen archebu lle -
charles.dewinton@btinternet.com
neu 07973 775661
neu Facebook Messenger, Brecon ROC Post
DS – mae'r digwyddiad yn dibynnu ar y tywydd. Felly mae'n bwysig gwirio ymlaen llaw trwy gysylltu â Mr Dewinton.
Lleoliad – Cefn Cantref, Aberhonddu, Powys, LD3 8LT.
SO 048266
What 3 Words: Safely.counts.twinkling
Cyfarwyddiadau – Bydd y manylion uchod yn eich cyfeirio at giât mewn cae lle cynigir lle i barcio ceir. Dilynwch yr arwyddion i'r Safle - mae hyn yn cynnwys taith gerdded o tua 200m ar draws tri chae. Mae'r tir yn wastad, felly ni ddylai fod yn broblem.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 28 Medi 2024 |
11:00 - 16:00
|