Skip to main content

Mae Wayfarer yn adeilad rhestredig o’r 16eg ganrif. Adeilad du a gwyn ffrâm bren, a rhannau ohono’n dyddio’n ôl i’r 1500au. Roedd yr adeilad yn wreiddiol wedi ei gysylltu â thafarn y Cross Foxes (yn fwy diweddar y Wynnstay Arms) gan borth siâp bwa ac fe’i defnyddiwyd i dacio ceffylau, rhan o’r stablau a thŷ coets yn perthyn i’r dafarn goets.

Mae’r adeilad wedi bod yn siop wlân sy’n gwerthu edafedd a phatrymau arbenigol, yn ogystal â chynnyrch cartref unigryw, ers 1965.

Dim angen archebu.

Cyfeiraid - Siop Wlân Wayfarer, Stryd y Ffynnon, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1AN.

Mae bysys yn aros yn Stryd y Farchnad a Wynnstay Road yn Rhuthun. O’r safle bws, cerddwch i fyny’r stryd at Sgwâr San Pedr a chymerwch y ffordd nesaf i lawr i’r chwith.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:00 - 16:00