Skip to main content

Taith o amgylch Rhuthun yng nghamau’r menywod a lofnododd Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru 1923

Dewch i gwrdd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun am 10.30am ddydd Sadwrn 7 Medi am daith gerdded a arweinir gan yr artist tecstilau Bethan M Hughes - i glywed hanesion rhai o’r menywod a lofnododd ddeiseb Heddwch 1923 yn Rhuthun a bwrwch olwg ar ychydig o gelf tecstilau wedi’i hysbrydoli gan eu hanesion.

Bydd y daith gerdded yn para tua 2 awr.

Mae angen archebu lle. Archebwch le drwy anfon e-bost at opendoorsruthin@outlook.com

Canolfan Grefft Rhuthun - LL15 1BB.

Mae digon o fysiau yn teithio rhwng Rhuthun a Chaer, Y Rhyl, Yr Wyddgrug, Dinbych, Wrecsam a Chorwen.
Edrychwch ar wefan Trafnidiaeth Cymru am fwy o wybodaeth https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/bws


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:30 - 12:30