Skip to main content

Taith gerdded i archwilio adeiladau John Douglas yn Rhuthun

Roedd Ysgol Rhuthun yn un o'r adeiladau yn Rhuthun a ddyluniwyd gan John Douglas, pensaer Fictoraidd enwog. 

Bydd y daith gerdded ddydd Sul, 8 Medi yn dechrau yn Ysgol Rhuthun am 10.45am ac yn cael ei harwain gan Heather Williams. Bydd yn dechrau drwy archwilio rhannau o Ysgol Rhuthun ac yna yn symud ymlaen i rai o adeiladau eraill John Douglas yn Rhuthun. Bydd rhywfaint o dir anwastad a rhannau serth yn ystod y daith.

Bydd y daith gerdded yn para rhyw 2 awr.

Mae angen archebu lle. Archebwch le trwy anfon e-bost at opendoorsruthin@outlook.com

Man cyfarfod y daith gerdded fydd Ysgol Rhuthun, sydd ar Ffordd Yr Wyddgrug (A494) ar gyrion Rhuthun yn LL15 1EE5.

Mae’r ysgol gyferbyn â’r ysgol uwchradd leol, Brynhyfryd. Mae’n daith gerdded fer o’r ganolfan ond mae lle i barcio ar dramwyfa’r ysgol. 

Mae digon o fysiau yn teithio rhwng Rhuthun a’r Rhyl, Dinbych, Caer, Yr Wyddgrug, Wrecsam a Chorwen. Edrychwch ar yr amserlenni sydd ar wefan Trafnidiaeth Cymru https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/bws


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sul 08 Medi 2024
10:45 - 12:45