Skip to main content

Adeiladwyd ysgubor nenfforch Tŷ Coch yn wreiddiol fel tŷ neuadd, gydag ystafell fewnol, neuadd ynghyd â chyntedd a beudy. Yn y 18fed ganrif cafodd yr adeilad ei newid at ddefnydd amaethyddol ac roedd yn feudy cyn i waith atgyweirio helaeth gael ei wneud. Fe'i rhestrwyd yn 2002 ond roedd mewn cyflwr adfeiliedig. Gwnaed y gwaith atgyweirio ar ddechrau'r 21ain ganrif gan Gyngor Sir Ddinbych ac ers hynny mae'r adeilad wedi cael ei ddefnyddio gan fusnesau bychain. 

Y busnes harddwch moesegol, Bathing Beauty sydd yn Tŷ Coch ar hyn o bryd. Bathing Beauty yw'r unig fusnes harddwch B Corp ardystiedig yng Nghymru - mae hyn yn golygu bod Bathing Beauty wedi cyrraedd ac yn cynnal safonau uchaf arferion busnes moesegol cynaliadwy a thryloyw y byd heddiw. Mae hon yn gamp enfawr ac yn un y mae’n anarferol iawn i frand micro ei chyflawni, ond mae'n adlewyrchu'r ymrwymiad i ddefnyddio'r busnes yn unig fel grym er daioni. Bathing Beauty yw'r unig frand Harddwch yng Nghymru i ennill Ardystiad B Corp.

Dim angen archebu.

Bathing Beauty, Tŷ Coch, Llangynhafal, near Ruthin, LL16 4LN

Lleolir ysguboriau Tŷ Coch ar yr is-ffordd i Langynhafal, yn nhroedfryniau Bryniau Clwyd. Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans yw SJ 129638

Gorwedd Ysguboriau Tŷ Coch i'r gogledd o Ruthun, tua hanner ffordd tuag at Ddinbych ar y ffordd fach i Langynhafal. Mae'n agos i Gellifor a Hendrerwydd.

Mae maes parcio ar y safle am ddim ar gyfer hyd at ddeg car, a chyfleusterau mynediad i gadeiriau Olwyn.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sul 08 Medi 2024
10:00 - 16:00