Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae Tŷ’r Sesiynau yn adeilad Fictoraidd a adeiladwyd yn wreiddiol i gartrefu dwy ystafell llys. Agorwyd Tŷ’r Sesiynau yn 1877 ar ôl cymryd 20 mlynedd i'w gwblhau. Adeiladwyd fel Llys Sesiwn Chwarter ar gyfer Sir Fynwy gyfan. Mewn gwir arddull Fictoraidd, mae’n berffaith gymesur, hyd yn oed o ran y defnydd o ddrws ffug er mwyn sicrhau'r cymesuredd hwnnw. Mae Tŷ’r Sesiynau, sydd bellach yn eiddo i Gyngor Tref Brynbuga, yn cynnig defnydd o Lyfrgell Mather ac Ystafell Llys Fictoraidd i'w llogi gan fusnesau, sefydliadau a'r Celfyddydau.

Yn ystod eich ymweliad gallwch weld ystafell lys Fictoraidd wreiddiol a chlywed straeon am droseddwyr a barnwyr, heb anghofio Casper yr ysbryd cyfeillgar! Ymunwch â'n taith i weld llyfrgell Mather Jackson a mentro i lawr i'r hen dwnnel sy'n arwain o'r doc. Cewch dynnu eich llun yn Sedd y Barnwr a dod o hyd i'r pisdy Fictoraidd. Mae'r teithiau'n para tua 30 munud. Nid oes angen tocynnau, dewch draw i fwynhau.

Dydd Sadwrn 19fed Medi 2026 - Digwyddiad Mynediad Am Ddim:

  • Teithiau Tywys 30 munud o Dŷ'r Sesiynau o 10am – 4pm
  • Arddangosfa a theithiau cerdded Alfred Russel Wallace

Tŷ’r Sesiynau 43 Stryd Maryport Brynbuga NP15 1AD

 


Prisiau

Am Ddim
Categori Price

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 19 Med 2026
10:00 - 16:00