Skip to main content

Wynnstay House yw hanner hen dafarn y Wynnstay Arms yn Rhuthun. Mae gwaith adnewyddu diweddar wedi datgelu llawer o’r tŷ ffrâm goed gwreiddiol a oedd yn graidd i’r safle, yn ogystal â gwaith plastro addurniadol o’r 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg ganrif. Mae’r adeilad wedi’i restru fel Gradd 2, a nodwyd iddo gael ei adeiladu’n wreiddiol yng nghanol yr 16eg ganrif.

Wynnstay House, Well Street, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1AN

O Sgwâr St Peter yng nghanol y dref, cerddwch lawr Well Street am tua 200 metr.  Wynnstay House yw’r adeilad melyn ar ochr dde y ffordd.

Mae mynediad i’r llawr gwaelod yn cynnwys step, ac mae grisiau er mwyn cyrraedd y llawr uchaf.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 08 Medi 2024
10:00 - 16:00