Skip to main content

Paratowch i gael eich tywys yn ôl mewn amser i Ynys Môn yr oes a fu — cyfnod o hud a lledrith, helyntion a henebion.

Mae stori’r siambr gladdu ym Mryn Celli Ddu yn tywys darllenwyr yn ôl i’r cyfnod Neolithig, tua 5000 o flynyddoedd yn ôl. Adeiladwyd yr heneb fel bod yr haul yn tywynnu drwyddi ar Hirddydd Haf, sef diwrnod hira’r flwyddyn, gan ei gwneud yn galendr o garreg.

Claddfa gyntedd yw Barclodiad y Gawres, sy’n edrych dros arfordir gorllewinol Môn. Mae’r comic yn datgelu’r stori y tu ôl i’r digwyddiadau cymunedol hynafol ar y safle a’r cerfiadau cywrain y tu mewn i’r twmpath sy’n ein hatgoffa ni o’r adeiladwyr Neolithig a fu yno amser maith yn ôl.

Yn Llyn Cerrig Bach, mae’r stori’n ein tywys yn ôl 2000 o flynyddoedd pan gafodd lawer o eitemau hynafol eu gollwng yn y llyn ac yna’n adrodd sut y daethpwyd o hyd iddyn nhw - diolch i waith ditectif anhygoel dyn lleol o’r enw Williams Owen Roberts, yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae’r tri chomic yn cynnwys gemau a gweithgareddau hwyliog wedi’u hysbrydoli gan y safleoedd archeolegol a’r arteffactau a ddarganfuwyd yno.

Mae'r artist nodedig Pete Fowler, sy'n enwog am ei waith celf ar gyfer albymau Super Furry Animals a theganau Monsterism, wedi creu dau gomic am ddim sy'n dod â chwedlau Cymru'n fyw.

Mae Gwenllian yn sôn am hanes go iawn y dywysoges ryfelgar a arweiniodd wrthryfel yn y ddeuddegfed ganrif. Digwyddodd y frwydr y ceir ei hanes yn y comic, ger Castell Cydweli, a dyma'r lle i fynd i gael copi am ddim o'r comic.

Mae Branwen yn ailadrodd un o hen chwedlau'r Mabinogi. Pan mae Branwen yn cael ei chosbi am weithredoedd un o'i brodyr, mae ei brawd Brân - brenin a chawr - yn mynd i ryfel i ddial ei cham. Mae gan y chwedl draddodiadol hon gysylltiad â Chastell Harlech, ac mae copïau ar gael yn y safle trawiadol hwn gan Cadw.